Medal Menelaus 2023: Yr Athro Aimee Morgans

Mae’r Athro Aimee Morgans yn ennill Medal Menelaus 2023 am ei gwaith ar yr ansefydlogrwydd sy’n bygwth strwythur peiriannau tyrbinau nwy awyrennau.

Mae Aimee Morgans yn Athro yn adran Peirianneg Fecanyddol Coleg Imperial Llundain. Mae ei hymchwil yn mynd i’r afael â sain, fflamau ac aerodynameg, a’i nod yw gwneud trafnidiaeth a chynhyrchu ynni yn fwy ystyriol o’r amgylchedd. Enillodd raddau MEng a PhD mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn ymuno â Choleg Imperial Llundain yn 2007.

Yn 2017, hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn athro yn adran Peirianneg Fecanyddol y Coleg. Mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil EPSRC/RAEng, a dau grant sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd. Cafodd ei hethol yn un o Gymrodyr yr Academi Frenhinol Peirianneg yn 2021.

“Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill medal Menelaus, sy’n cydnabod gwaith fy ngrŵp ymchwil wrth ddatblygu meddalwedd sydd ar gael yn agored ar gyfer rhagweld ansefydlogrwydd thermoacwstig, sy’n rhwystr allweddol o ran tyrbinau nwy allyriadau isel a pheiriannau roced sefydlog.”

Yr Athro Aimee Morgans