Sut rydym yn Ethol Cymrodyr o’r Byd Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau
Mae pobl o’r byd diwydiant, masnach, y celfyddydau a phroffesiynau yn ffurfio cyfran gynyddol o Gymrodoriaeth y Gymdeithas.
Maen nhw’n ehangu ein heffaith ac yn adlewyrchu cryfder ac amrywiaeth bywyd dinesig Cymru.
Hyd yma, maen nhw wedi cael eu categoreiddio o dan y teitl ‘Cyffredinol – Gwasanaeth Cyhoeddus’, gydag enwebiadau’n cael eu hystyried gan y pwyllgor ‘C1’. Roedd hyn yn tan-chwarae’r arbenigedd a’r ystod o gefndiroedd a ddaw yn sgil y Cymrodyr hyn.
Adolygodd gweithgor o Bwyllgor Cymrodoriaeth y Gymdeithas, dan arweiniad Dr. Sally Davies, y categori ‘C1: Cyffredinol – Gwasanaeth Cyhoeddus’. Argymhellodd ailstrwythuro ac ailenwi’r categori fel Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau [ICAP].
Y newidiadau yn fanwl
Cylch gwaith y gweithgor oedd adolygu pob agwedd ar y categori ‘C1’ blaenorol, o’i enw i’r gwaith papur enwebu, i’r pwyllgor craffu sy’n asesu enwebiadau.
Gwnaeth y grŵp nifer o argymhellion, a gafodd eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cymrodoriaeth a’r Cyngor:
- Mae ‘C1: Cyffredinol – Gwasanaeth Cyhoeddus’ yn cael ei ddisodli gan y categori ‘Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau [ICAP]’.
- Bydd dau bwyllgor craffu yn asesu enwebiadau i’r categori:
– Arweinyddiaeth mewn Ymgysylltu a Dealltwriaeth y Cyhoedd [ICAP1]
– Arweinyddiaeth yn y Sector Proffesiynol, Addysgol a Chyhoeddus [ICAP2]
- Bydd y pwyllgorau craffu yn cael eu cadeirio yn y lle cyntaf (2022/23 yn unig) gan yr Is-lywyddion, gydag aelodau yn cael eu dewis o blith Cymrodorion a etholwyd yn flaenorol o dan C1 (byddwn yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb yn fuan).
- Mae pecyn enwebu ar wahân ar gyfer ICAP.
- Ni fydd enwebiadau sydd yn cael eu cyflwyno ar gam yn cael eu croesgyfeirio.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau a ffurflenni enwebu 2022/23 ar y wefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael cyngor ar wneud enwebiad, cysylltwch â Fiona Gaskell.