Popeth yn Gyfartal: Blog Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Eleni, croesawodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru y nifer uchaf erioed o Gymrodyr benywaidd i’w chymuned gynyddol o academyddion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol.

Yn wir, gyda bron i hanner y Cymrodyr newydd yn fenywod (48%), rydym yn credu bod hyn yn ein rhoi ymhlith brig y prif academïau cenedlaethol o ran sicrhau derbyniad sy’n dangos cydbwysedd rhwng y rhywiau.

Cyhoeddwyd ein carfan o Gymrodyr yn 2022 yn gynharach y mis hwn. Gan iddo gael ei ddilyn yn gyflym gan y diwrnod canlyniadau REF2021 diwygiedig, lle buom yn dathlu rhagoriaeth ac effaith ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghymru, ni wnaethom gymryd yr amser i fyfyrio ar ba mor fawr oedd hyn. Yn fy mlog cyntaf fel Prif Weithredwr, mae’n teimlo’n iawn felly, fy mod i’n dathlu ein cyflawniadau ym maes EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant), yn ogystal â nodi ein camau nesaf ar sut rydym yn bwriadu adeiladu ar hyn.

Pan ddechreuais weithio i’r Gymdeithas ym mis Chwefror, roeddwn wrth fy modd o weld ymrwymiad dilys i werthfawrogi a dathlu cyfraniadau pawb, a’r camau cadarnhaol yr oedd y Gymdeithas wedi’u cymryd i wella EDI drwy ei wneud yn brif flaenoriaeth. Ers 2021, mae ein Cyngor wedi sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau, ac roedd ymdrechion enfawr eisoes ar y gweill i wella’r ffordd yr oedd pobl yn cael eu henwebu fel Cymrodyr. Roeddem yn cynnal sesiynau gwybodaeth fwy cynhwysol, ac yn sicrhau bod y rheiny sy’n enwebu darpar gymrodyr ac yn penderfynu ar eu penodiad, yn dilyn arferion gorau i wella EDI.

Mae ein Cymrodyr 2022 yn hollol rhagorol. Maen nhw’n garfan amrywiol, sy’n adlewyrchu’r ymdrechion hyn. Rydym i bob pwrpas wedi cyrraedd ein targed o 50/50 o enwebiadau menywod/dynion mewn blwyddyn yn unig; Roedd 38 o’r 77 enwebiad ar gyfer menywod. O ystyried mai dim ond 8% o Gymrodyr oedd yn fenywod yn 2011, mae’r ffaith ein bod ni wedi gweld y ffigur hwnnw’n fwy na threblu i 26% yn 2022, yn naid enfawr ymlaen.

Fodd bynnag, er bod llawer i’w ddathlu, mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Rydym eisiau bod yn Gymdeithas amrywiol, ac adlewyrchu amrywiaeth y gymdeithas ehangach. Fel rhan o’n gwaith EDI parhaus, comisiynodd y Gymdeithas adroddiad y llynedd, i edrych ar ba mor groesawgar a chynhwysol ydyn ni. Mae’r prif argymhellion yn awgrymu y dylai’r Gymdeithas barhau i wella amrywiaeth ei Chymrodoriaeth, ei digwyddiadau a’i negeseuon. Mae’r adroddiad yn argymell cynllun mentora, ehangu’r defnydd o’r Gymraeg, a chynyddu hyfforddiant i’r Gymdeithas hefyd.

Y mis hwn, bydd gweithgor yn cael ei ffurfio, i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a oedd yn seiliedig ar arolwg ar-lein a gwblhawyd gan 140 o bobl ac 20 o gyfweliadau dilynol.

Dywedodd yr Athro Terry Threadgold, aelod o Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a fydd yn arwain y gweithgor:

“Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion pwysig. Mae’r gweithgor yn golygu y gallwn eu harchwilio’n fanwl a chyda’r difrifoldeb maen nhw’n ei haeddu.”

“Rydyn ni’n gwybod bod gennym ni ragor i’w wneud, hyd yn oed gyda chynnydd calonogol diweddar. Mae angen inni, er enghraifft, wella ein dulliau o ymgysylltu â phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a’u cynnwys, yn ogystal â’r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig eraill.

“Mae’r Gymdeithas angen, ac yn croesawu, amrywiaeth eu profiad a’u barn.”

Byddwn yn defnyddio arbenigedd ein Cymrodoriaeth amrywiol ac arbenigwyr EDI allanol, i argymell sut rydym yn gwneud ein Cymdeithas yn fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Bydd y gweithgor yn adrodd i Gyngor y Gymdeithas yn nhymor yr Hydref 2022, a gobeithio y byddaf yn ysgrifennu blog am ragor o gynnydd cyn bo hir