Y Gymdeithas yn Croesawu Canlyniad FfRhY2021 ar gyfer Cymru
Mae prifysgolion Cymru yn chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â nifer o’r heriau rydym yn eu hwynebu heddiw, a’r heriau fyddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Dyna’r casgliad o ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil [FfRhY2021] heddiw. FfRhY2021 yw system y DU ar gyfer asesu rhagoriaeth ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch y DU. Caiff ei defnyddio i lywio’r rhaniad blynyddol o thua £90m o gyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil prifysgol yng Nghymru, a £2 biliwn y flwyddyn ledled y DU.
“Mae dathlu ymchwil o Gymru yn rhan hanfodol o waith Cymdeithas Ddysgedig Cymru,” dywedodd Yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas. “Dyna pam ein bod yn croesawu cydnabyddiaeth FfRhY2021 o gryfder, llwyddiant a gwerth cyhoeddus ymchwil prifysgolion Cymru.
“Mae’r dyfarniad bod 83% o ymchwil Cymru yn flaenllaw ledled y byd, neu’n rhyngwladol rhagorol, yn arbennig.
“Mae’r ffaith bod 89% o’r ymchwil hwn yn cael effaith sy’n arwain y byd neu’n rhyngwladol rhagorol, yn achos dathlu. Mae’r canlyniadau hyn yn adeiladu ar FfRhY2014 ac yn dangos cynnydd. Mae ymchwil o Gymru yn digwydd mewn amgylchedd cefnogol. Mae’n eangfrydig. Mae’n newid bywydau pobl yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.
“Mae ein Cymrodorion yn cyfrannu’n sylweddol at yr ymchwil hwn. Maent yn dod o bob maes pwnc a disgyblaeth. Felly, rydym ar ben ein digon bod FfRhY2021 yn cydnabod y ffaith bod ymchwil o Gymru yn rhagori ar draws sefydliadau ac ar draws STEMM, y Dyniaethau, y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol.”
Bydd y Gymdeithas yn parhau i hyrwyddo ymchwil ac ymchwilwyr Cymru, yn enwedig drwy ei medelau blynyddol a chrynodebau ymchwil, wrth i’w Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Gynnar barhau i gefnogi ymchwilwyr wrth i’w gyrfaoedd ddatblygu a gwella.
Byddwn hefyd yn ymgysylltu â’r canlyniadau, fel y gwnaethom gyda FfRhY2014. Byddwn yn cynnig dadansoddiad a dehongliad pellach yn ystod y misoedd nesaf, er mwyn dysgu unrhyw wersi a chefnogi taith o welliant parhaus.