Cymrodyr Newydd y Gymdeithas yn arddangos Bywyd Academaidd a Dinesig Ffyniannus Cymru

Chwe deg chwech o Gymrodyr newydd yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, bron i hanner ohonynt yn fenywod, sy’n dangos bod gan Gymru’r datrysiadau i nifer o heriau heddiw.

Academyddion, ymchwilwyr a ffigyrau cyhoeddus yn ymuno â’r Gymdeithas o ar draws bywyd academaidd a dinesig yng Nghymru a thu hwnt.

Mae eu harbenigedd yn amrywio o beirianneg awyrofod i hanes Ewropeaid Affricanaidd, microadeileddau seramig i’r ffidl Faróc, menywod mewn llawfeddygaeth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a llawer o feysydd eraill.

Gallwch lawrlwytho rhestr lawn o’r Cymrodyr newydd yn cynnwys eu sefydliadau a meysydd ymchwil yma.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas:

“Mae gwybodaeth arbenigol ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae ystod yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i gwrdd â’r heriau amgylcheddol, technegol, cymdeithasol, diwylliannol ac iechyd sy’n ein hwynebu.

“Mae gallu’r Gymdeithas i ddod â’r bobl dalentog yma at ei gilydd yn ein caniatáu i ddechrau a dylanwadu ar ddadleuon pwysig am sut mae Cymru, y DU a’r byd yn gallu llywio’r dyfroedd tymhestlog sydd o’n blaen heddiw.

”Rwy’n falch iawn bod 48% o’n Cymrodyr yn fenywod. Mae hyn yn dangos ein bod yn dechrau cwrdd â’n hymrwymiadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae yna waith i’w wneud eto, wrth i ni weithio i sicrhau bod y Gymdeithas yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ond mae hwn yn gam pwysig.”

Cymrodyr er Anrhydedd

Mae’r Gymdeithas hefyd wedi derbyn pedwar Cymrawd er Anrhydedd newydd sy’n dod gydag enw o safon byd a statws yn eu maes:

Mae’r Farwnes Brown o Gaergrawnt, yr Athro Julia King yn beiriannydd, yn un o leisiau mwyaf uchel eu parch ar newid yn yr hinsawdd ac yn cadeirio Pwyllgor Addasu – Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) y DU.

Charles Burton yw un o artistiaid blaenllaw Cymru, mae gan ei waith naws ryngwladol, ond mae’n mynegi yn arbennig tirweddau a phriodweddau’r Rhondda, yr ardal lle cafodd ei fagu.

Mae’r Fonesig Sue Ion yn beiriannydd sydd wedi dod yn un o’r prif eiriolwyr dros bolisi ynni a’r defnydd diogel ac effeithlon o ynni niwclear, mae hi hefyd yn cynghori’r llywodraeth am y maes.

Mae Syr Karl Jenkins, a gafodd ei eni yn y Gŵyr, yn gerddor a chyfansoddwr traws-genre y mae ei gerddoriaeth ymhlith y gerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio fwyaf yn y byd heddiw.


* Golygwyd y stori hon ar 18 mai 2022 i gywiro gwall ffeithiol. Roedd 32 o’n 66 Cymrawd newydd, 48.5% yn hytrach na hanner fel y nodwyd yn wreiddiol, yn fenywod.

Wrth gynnwys ein Cymrodyr Er Anrhydedd newydd, roedd 34 o’r 70 (48.6%) o ddisgyblion newydd yn 2022 yn fenywod.