A cartoon image of William Menelaus

Medal William Menelaus ar gyfer Peirianneg, Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg

Amserlen enwebu

1 Mawrth 2027

Ar agor ar gyfer enwebiadau

12.00pm, 1 Mehefin 2027

Dyddiad olaf i enwebu

Mehefin – Gorffennaf 2027

Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau

Medi 2027

Canlyniad y penderfyniad

Hydref / Tachwedd 2027

Seremoni Wobrwyo

Am y Fedal William Menelaus

Noder: bydd y fedal hon yn cael ei dyfarnu nesaf yn 2027. Bydd enwebiadau’n agor ym mis Mawrth 2027.

Mae’r fedal hon, a noddwyd gan SWIEET, yn dathlu cyfraniadau sylweddol i’r ddisgyblaeth Peirianneg, Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg gan unigolion penodol sy’n gweithio mewn ymchwil neu arloesi.

Bydd enillwyr y fedal hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Cyfraniad sylweddol i’w disgyblaeth/maes gwaith
  • Cyrhaeddiad ac effaith eu gwaith y tu hwnt i gwmpas eu maes/disgyblaeth
  • Allbynnau nodedig o’u gwaith
  • Unrhyw gyflawniadau nodedig eraill ee arloesedd, prosiectau mawr, trosglwyddo gwybodaeth, dosbarthu eu gwaith, etc.

Ar agor i unigolion yn unig.

Bydd enillwyr yn unigolion sydd ar ganol neu’n ddiweddarach yn eu gyrfa – diffinnir fel rhywun sydd fel arfer, pan gaiff ei enwebu, â mwy na deng mlynedd o brofiad mewn ymchwil neu waith proffesiynol perthnasol.  (10 mlynedd neu gyfwerth â 10 mlynedd llawn amser).

Pwy oedd William Menelaus a pham ei fod yn cael ei gysylltu â’n ‘Medal ar gyfer Peirianneg, Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg’?
Peiriannydd a gweithgynhyrchwr haearn a dur oedd yn Rheolwr Cyffredinol Cwmni Haearn Dowlais yn Ne Cymru oedd William Menelaus.  Goruchwyliodd drawsnewidiadau enfawr mewn cynhyrchu gan ddefnyddio prosesau arloesol a wnaeth Dowlais yn flaenllaw.   Sefydlodd y Sefydliad Peirianwyr De Cymru gwreiddiol ym 1857. Darllenwch ragor am William Menelaus.

Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Professor Stuart Taylor with his medal

2024: Mae’r Athro Stuart Taylor yn ennill Medal Menelaus 2024 am ei chyfraniadau arloesol i gatalysis heterogenaidd, ac wedi dylanwadu ar ynni, cynaliadwyedd, cemeg werdd, a diogelu’r amgylchedd.

2023: Enillodd yr Athro Aimee Morgans Fedal Menelaus 2023 am ei gwaith ar yr ansefydlogrwydd sy’n bygwth strwythur peiriannau tyrbinau nwy awyrennau.

2022: Mae’r Athro Kenneth Morgan yn ennill Medal Menelaus 2022 am ei waith ar fodelau cyfrifiadurol ar gyfer dadansoddi ym maes peirianneg.

2021: Dr. Drew Nelson yw enillydd ein Medal Menelaus am ei waith yn sefydlu De Cymru fel canolbwynt byd-eang ar gyfer technoleg a gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion.

2020: Yr Athro Nidal Hilal, deiliad Cadair Peirianneg Prosesu Dŵr ym Mhrifysgol Abertawe, yw enillydd Medal Menelaus 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ddyfernir i ddathlu rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg.

2019: Yn 2019 dyfarnwyd y fedal i’r Athro Roger Owen FREng FRS FLSW, Athro Ymchwil Peirianneg, Prifysgol Abertawe.

2017: Yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caerdydd ennillodd y Fedal Menelaus yn 2017.

2016: Yr Athro Hagan Bayley FLSW FRS oedd y pedwerydd unigolyn i dderbyn Medal Menelaus y Gymdeithas.

2015: Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi mai’r gwyddonydd nodedig o Gymru yr Athro Syr John Meurig Thomas FLSW Hon.FRSE Hon.FREng FRS fydd y trydydd i dderbyn Medal Menelaus y Gymdeithas.

2014: Yn 2014 dyfarnwyd y fedal i’r Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE FLSW FRS.

2013: Yn 2013 dyfarnwyd y fedal i’r Sir Terry Matthews Kt OBE PEng FIEE FREng.