Ceisio mwy o gynrychiolaeth o Gymru ar Academi Ifanc y DU
Mae ymchwilwyr o Gymru yn cael eu hannog i wneud cais i ymuno ag Academi Ifanc y DU. Mae rownd y ceisiadau eleni yn cynnwys menter i gefnogi academyddion sydd mewn perygl hefyd.
Sefydlwyd Academi Ifanc y DU yn 2022 ac mae’n gweithredu o dan nawdd y Gymdeithas Frenhinol. Mae’n rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa, a sefydlwyd i fynd i’r afael â materion cymdeithasol a hyrwyddo newid ystyrlon. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn un o’i saith academi partner, sy’n gweithredu ar draws y DU ac Iwerddon.
“Rydym yn annog arloeswyr, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru i gyflwyno eu henw ar gyfer Academi Ifanc y DU, p’un a ydynt yn gwneud cais am y tro cyntaf neu’n ailgyflwyno cais,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga-Soltero, ein Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.
“Mae Academi Ifanc y DU yn fforwm i arweinwyr talentog, datblygol gymhwyso eu harbenigedd eu hunain ochr yn ochr â chydweithwyr o feysydd eraill.
“Bydd ymuno â’r Academi yn caniatáu i gynrychiolwyr o Gymru gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol, llywio trafodaeth gyhoeddus a chydweithio i sicrhau newid ystyrlon.
“Mae’n gyfle gwych i roi Cymru wrth galon rhwydwaith ar draws y DU. Mae ein tîm datblygu ymchwilwyr yn hapus i gefnogi eich cais.”
Mae Cymru a’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar eisoes wedi’u cynrychioli ar Academi Ifanc y DU, gyda Dr Muhammad Naeem Anwar (Cymrawd Rhyngwladol y Gymdeithas Frenhinol-Newton, Prifysgol Abertawe) a Dr Barbara Hughes-Moore (Darlithydd yn y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd) yn rhan o ddatblygu ei chynllun strategol.
Mae Dr Hughes-Moore yn cyd-arwain menter IMAGINE Academi Ifanc y DU hefyd, sy’n annog pobl ifanc i ddychmygu dyfodol iddyn nhw eu hunain ac i eraill. Yn y cyfamser, mae Dr Mirain Rhys (Uwch Ddarlithydd, Seicoleg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd) yn rhan o Brosiect THRIVE, ac yn archwilio’r heriau nodedig a wynebir gan unigolion niwroamrywiol sy’n ymuno â’r gweithlu.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am Academi Ifanc y DU, byddem yn falch iawn o helpu. Cysylltwch â’n tîm datblygu ymchwilwyr yn researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.
Mae Academi Ifanc y DU wedi cynhyrchu tudalen ‘awgrymiadau gorau’ hefyd, gyda chanllawiau defnyddiol.