Medal Menelaus 2020

Yr Athro Nidal Hilal, deiliad Cadair Peirianneg Prosesu Dŵr ym Mhrifysgol Abertawe, yw enillydd Medal Menelaus 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ddyfernir i ddathlu rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg.

Yr Athro Hilal yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y Ganolfan Technolegau Dŵr Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol (CWATER). Mae’r Athro Hilal yn arwain y byd ym maes technoleg dihalwyno a philen, gan ymchwilio i ddatblygu datrysiadau i broblemau dŵr byd-eang yn defnyddio technolegau peirianneg uwch.

Mae’n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol blaenllaw sy’n pontio ffiseg, cemeg a pheirianneg yn ei ymgais i ddarparu datrysiad ar gyfer prinder dŵr byd-eang. Mae ei ddiddordebau yn fras ym meysydd deunyddiau nanostrwythuredig, datblygu meinwe, dihalwyno a thrin dŵr. Mae gweithgareddau ymchwil yr Athro Hilal wedi arwain at arloesiadau pwysig ym maes puro dŵr, gyda thros 500 o gyhoeddiadau, 7 patent a 9 llawlyfr yn ei enw hyd yma.

I gydnabod ei waith, derbyniodd yr Athro Hilal Wobr Gwyddorau Cymhwysol Kuwait 2005, un o anrhydeddau gwyddonol mwyaf y Dwyrain Canol. Mae’r llwyddiannau hyn wedi gosod Cymru, a Phrifysgol Abertawe yn benodol, ar y map byd-eang ar gyfer datblygu datrysiadau cyflenwi dŵr yfed glân a thrin dyfroedd halogedig.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Athro Hilal:

“Mae’n anrhydedd derbyn Medal Menelaus Medal Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Mae’r argyfwng dŵr byd-eang wedi dod yn her bwysig yn y 21ain ganrif, sy’n gwaethygu gyda’r cynnydd yn y galw am ddŵr drwy’r byd. Mae fy ymchwil mewn technolegau dihalwyno a thrin dŵr arloesol wedi bod yn hanfodol wrth fwydo byd sychedig ac wedi ein galluogi i fanteisio ar adnoddau helaeth fel dŵr y môr.”