Medal Menelaus 2024

Yr Athro Stuart Taylor

Mae’r Athro Taylor wedi gwneud cyfraniadau arloesol i gatalysis heterogenaidd, ac wedi dylanwadu ar ynni, cynaliadwyedd, cemeg werdd, a diogelu’r amgylchedd.

Mae ei waith ar gatalysis amgylcheddol wedi datblygu systemau cynnal bywyd a rheoli allyriadau atmosfferig, gan arwain at ddatblygiadau arloesol sydd wedi cael eu masnacheiddio ar draws y byd. Mae’r datblygiadau arloesol hyn yn cael eu defnyddio mewn llongau tanfor, deifio môr dwfn, i ymladd tân a mwyngloddio, i amddiffyn rhag gwenwyn carbon monocsid ac i arbed miloedd o fywydau bob dydd.

Mae ei gyfraniadau i’r datblygiadau technolegol hyn wedi ei osod ymhlith y 2% uchaf o ymchwilwyr yn fyd-eang gan Safle blynyddol Gwyddonwyr y Byd Prifysgol Stanford.

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd mawr i dderbyn Medal Menelaus LSW 2024. Mae’n adlewyrchu cyflawniadau dros nifer o flynyddoedd, ac rwy’n ddiolchgar dros ben i fy holl fyfyrwyr, cydweithwyr a chydweithredwyr sydd wedi cyfrannu a chefnogi fy ngyrfa ymchwil.”

Yr Athro Stuart Taylor