Medal Menelaus 2022

Mae’r Athro Kenneth Morgan yn ennill Medal Menelaus 2022 am ei waith ar fodelau cyfrifiadurol ar gyfer dadansoddi ym maes peirianneg.

Athro ym Mhrifysgol Abertawe yw Kenneth Morgan. Mae wedi gweithio ers degawdau lawer ar ddatblygu modelau cyfrifiadurol ar gyfer dadansoddi peirianegol. Mae hyn wedi cael effaith arbennig ar y ffordd y mae diwydiannau awyrofod yn defnyddio efelychu cyfrifiadurol ar gyfer dylunio a dadansoddi. Darllenwch fwy am waith yr Athro Morgan.

Mwy ynghylch y Fedal Menelaus