Dr Rebecca Dimond

Dr Rebecca Dimond, darlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yw enillydd Medal Dillwyn 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes) i gydnabod rhagoriaeth ei hymchwil gyrfa gynnar.

Mae gwaith Dr Dimond ym maes cymdeithaseg feddygol yn archwilio goblygiadau clefyd genetig i gleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae ei hymchwil ar glefyd mitocondriaidd prin yn arloesol ac o bwys rhyngwladol. Arwydd o ragoriaeth, gwreiddioldeb a phwysigrwydd ei hymchwil oedd iddi dderbyn Gwobr Arweinwyr y Dyfodol yr ESRC.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Dr Dimond:

“Rwyf i wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr hon. Rwyf i’n gwerthfawrogi cefnogaeth fy nghydweithwyr aeth ati i fy enwebu am y wobr ac i’r Gymdeithas Ddysgedig.

“Ymchwilydd ansoddol wyf i ac mae fy mhrif waith yn cynnwys siarad gyda chleifion am eu profiadau o glefyd genetig prin. Yr hyn y bydd y wobr yn ei roi yw hyder i fynd ymlaen, a gyda gobaith gael effaith ar gleifion a’u profiadau o ofal iechyd.”