Pwy sy’n gymwys i fod yn Gymrawd?
I fod yn gymwys i gael eu hethol, rhaid i enwebeion fodloni ein diffiniad o Gymrawd:
Cysylltiad â Chymru:
Rhaid i gymrodyr fod yn bobl sy’n byw yng Nghymru, yn bobl sy’n enedigol o Gymru sy’n byw yn rhywle arall, ac eraill â chysylltiad arbennig â Chymru;
Wedi rhagori’n broffesiynol yn eu maes:
Ym mhob achos rydym yn diffinio rhagoriaeth yn nhermau’r meini prawf cyffredinol canlynol:
- Cyflawniad proffesiynol rhagorol (ansawdd eich cyflawniadau a’ch cyfraniadau at ddysgu)
- Statws proffesiynol (cryfder eich enw da ymhlith eich cyfoedion)
- Cyfraniadau ehangach (eich effaith ar bobl, sefydliadau neu gymdeithas ehangach)
Mae hyn yn amrywio rhwng gwahanol ddisgyblaethau a meysydd cyflawniad. Ceir gwybodaeth fanylach yn ein canllawiau.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Swyddog y Gymrodoriaeth, Stanislava Sofrenić.