Ecwiti, Amrywiaeth, Chynhwysiant

Datganiad Ecwiti, Amrywiaeth, a Chynhwysiant – Medi 2024

Yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, rydym yn angerddol am ein huchelgais i gynrychioli amrywiaeth Cymru.  Trwy weithredu, ein nod yw ymgorffori diwylliant o gynhwysiant a thegwch ym mhob maes o’n gwaith.

Rydym wedi ymrwymo’n gryf i herio annhegwch systemig a phob math o wahaniaethu ac ymyleiddio, a byddwn yn parhau i weithio’n galed i amrywio ein Cymrodoriaeth a’n harferion. Rydym yn ymrwymo i ddathlu, ysbrydoli a thynnu sylw at y cyfoeth amrywiol o ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, a gweithio mewn partneriaeth â’n Cymrodyr a’r cymunedau rydym yn perthyn iddynt.

Rydym wedi bwrw ati’n ymwybodol i ddatblygu ein huchelgeisiau mewn perthynas â Thegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), ond rydym yn gwybod bod llawer mwy o waith i’w wneud. Dyna pam rydym yn parhau i herio ein ffordd o feddwl, gweithredu ar ein dysgu a diweddaru ein hymrwymiadau. Mae hyn yn cael ei fynegi yn ein Cynllun Gweithredu EDI, sy’n nodi’r newidiadau a’r gwelliannau y byddwn yn eu gwneud trwy gydol pob agwedd ar ein sefydliad.  Hyrwyddwyd hyn drwy’r cytundeb i newid ein ffocws o ‘gydraddoldeb’ i ‘degwch’ – sy’n cydnabod pwyntiau yn ymwneud â’n hymrwymiad i’r ymyriad mwy gweithredol sydd ei angen ar gyfer ecwiti.

Ein hegwyddorion

  • Tegwch yw ein blaenoriaeth yn ein triniaeth deg a chyfartal o bawb
  • Diwylliant amlwg sy’n cynnwys ein huchelgeisiau EDI a’n ffyrdd o weithio, a lle mae croeso i bawb a lle mae pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain
  • Dim goddefgarwch at wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad digroeso
  • Cymrodoriaeth sy’n gwneud ei gorau glas i gynrychioli amrywiaeth Cymru
  • Rhannu ein harferion da gyda phobl eraill, a dysgu o bobl eraill yn gyson

Ein 3 thema:

  1. Creu diwylliant cynhwysol/teg i weithio ynddo a bod yn Gymrawd
  2. Ymgysylltu/Cysylltu â’n rhanddeiliaid
  3. Hybu a chefnogi gwaith EDI yng nghyd-destun ymchwil Cymru

yn ôl i'r brig