Cynhadledd Ymchwil ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar – Galwad am Geisiadau

Yr Argyfwng Hinsawdd ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol: Ymatebion gan ymchwilwyr yng Nghymru

  • Dyddiad cau: Dydd Llun 25 Hydref
  • Cynhadledd: Dydd Gwener 26 Tachwedd

Ydych chi’n Ymchwilydd Gyrfa Cynnar sy’n gweithio ar newid yn yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol neu faterion cysylltiedig? Hoffech chi rannu eich ymchwil gyda chydweithwyr ar draws Cymru a thu hwnt?

Wrth i gynhadledd COP 26 ar y newid yn yr hinsawdd agosáu, a’n bod ni’n ystyried materion byd-eang sydd yn cael eu rhannu y tu hwnt i’r pandemig Covid-19, bydd y gynhadledd ar-lein hon yn cynnig llwyfan i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ar draws meysydd STEMM, y dyniaethau, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol i arddangos eu hymchwil. 

Bydd y digwyddiad hwn yn galluogi ein cenhedlaeth o ymchwilwyr y dyfodol i fod ar flaen y gad o ran trafod dulliau newydd a chael atebion sy’n ymwneud â materion pwysig yn y byd sydd ohoni. Rydym yn croesawu cynigion gan Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar* sy’n barod i gymryd rhan mewn sgyrsiau trawsddisgyblaethol a thraws-sefydliadol i ledaenu eu hymchwil.  

I wneud cais, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru (er, os ydych chi’n gwneud cais i gyflwyno gweithdy neu sesiwn bord gron, gallai eich cydweithwyr fod yn gweithio y tu allan i Gymru). 

* At ddiben y gynhadledd hon, rydym yn diffinio Ymchwilydd Gyrfa Cynnar fel myfyriwr/ymgeisydd PhD blwyddyn olaf neu ymchwilydd ôl-ddoethurol, sydd wedi cwblhau eu PhD ddim mwy na 10 mlynedd yn ôl. 

Sut allwch chi gyfrannu:

  1. Gweithgarwch Unigol – Sgyrsiau Sydyn (cyflwyniad 7-10 munud ar brosiect ymchwil cyfredol neu ddiweddar, ac yna, cwestiynau gan y gynulleidfa). I gyflwyno eich cynnig gallwch ddarparu:
  • Fideo (60-90 eiliad o hyd) yn esbonio eich ymchwil.   
  • Crynodeb o’ch cais (uchafswm o 300 gair). 
  1. Gweithgaredd grŵp – Gweithdy neu Sesiwn Bord Gron(Bydd grŵp o 3 i 4 Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar o leiaf, yn cyflwyno ac yn trafod pwnc neu broblem ymchwil; gallai’r gweithgaredd hwn bara rhwng 60 a 90 munud). Yn wahanol i’r Sgwrs Sydyn, bydd y gweithdai a’r sesiynau bord gron yn cael eu trefnu gyda nifer o siaradwyr ymlaen llaw, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i gyflwyno a thrafod y pwnc ymchwil neu’r broblem gydag Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar sydd â diddordeb yn y thema. 

I wneud cais am weithdy neu gyfarfod bord gron, rhowch ddisgrifiad byr o gyfraniad pob person i’r gweithgaredd, neu grynodeb o’r pwnc/problem ymchwil y bydd y grŵp o Ymchwilwyr Gyrfa Cymru yn ei drafod (cyfanswm o 300 gair).   

Gweithdy: trafodaeth agored gyda phwy bynnag sy’n mynychu’r sesiwn. 
Sesiwn Bord Gron: mae panel o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn cyflwyno eu cyfraniadau, sy’n cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa. 

  1. Cymryd rhan yn y gwaith o drefnu’r digwyddiad – Rhowch wybod i ni os hoffech fod yn ymarferol, a’n cefnogi i gynllunio’r gynhadledd. Cewch ddewis un o’r rolau canlynol neu’r ddau ohonynt, neu awgrymu un arall:
  • Adolygydd: Adolygu’r ceisiadau gan ECRs sy’n dymuno cyflwyno yn y gynhadledd.  
  • Cadeirydd: Cymedroli un o sesiynau’r gynhadledd ar ddiwrnod y digwyddiad. 

Proses ymgeisio

Dylech lenwi’r ffurflen hon, dim ots sut ydych chi eisiau cyfrannu at y digwyddiad.

Os byddwch yn dewis cyflwyno fideo, byddwch yn mewnosod y cyswllt fideo yn uniongyrchol i’r ffurflen. Os hoffech gyflwyno crynodeb, gwnewch yn siŵr bod gennych chi eich 300 gair yn barod i’w gludo i mewn i’r ffurflen. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.  

Dyddiad cau: 25 Hydref, 5 p.m. amser y DU.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Dr Barbara Ibinarriaga ar: bibinarriagasoltero@lsw.wales.ac.uk