Medal Frances Hoggan 2020

Yr Athro Haley Gomez MBE FLSW, Athro Astroffiseg yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd, yw enillydd Medal Frances Hoggan 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ddyfernir i ddathlu ymchwil rhagorol gan fenywod mewn pynciau STEMM.

Derbyniodd yr Athro Gomez MBE yn 2018 ‘am wasanaethau i astroffiseg a seryddiaeth, ac yn benodol am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr a seryddwyr drwy gyfathrebu ei hymchwil i gynulleidfa eang’.

Mae hyn wedi cynnwys cyflwyno sgyrsiau niferus, ymddangos yn eang ar y cyfryngau a gweithio gyda’r coreograffydd Jack Philp i greu LUMEN, a ysbrydolwyd gan waith yr Athro Gomez ar lwch cosmig ac a berfformiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn ogystal, mae ei gwaith allgymorth wedi cynnwys hyfforddi dros 200 o athrawon yng Nghymru, yn rhannol mewn ymgais i unioni tuedd rhywedd mewn pynciau STEMM.

Mae ymchwil yr Athro Gomez wedi canolbwyntio ar ddefnyddio golau isgoch pell i ddatgelu allyriadau llwch mewn ffrwydradau sêr ac mewn galaethau. Mae ei thîm a chydweithwyr wedi helpu i ddangos bod llwch mewn gwirionedd yn cael ei greu mewn ffrwydradau sêr, bod y Bydysawd yn raddol yn troi’n “lanach” a bod conglfeini planedau creigiog fel y Ddaear yn ffurfio mewn un math penodol o ffrwydrad seryddol.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Yr Athro Gomez:

“Mae’n anrhydedd cael fy enwebu am y wobr hon heb son am ei hennill. Rwyf i’n teimlo’n lwcus dros ben fy mod wedi derbyn addysg wych yng Nghymru ac am yr holl gefnogaeth rwyf i’n ei derbyn gan fy nheulu a fy mhartner. Rwyf i’n arbennig o falch i dderbyn medal Frances Hoggan o ystyried ei gwaith arloesol mewn cymdeithas lle prin roedd menywod yn cael ymarfer gwyddoniaeth o gwbl.

“Fel gwyddonydd, a bellach fel rhiant i efeilliaid bachgen-merch, mae’n bwysig i mi fod cymdeithas yn gyffredinol yn gallu ymgysylltu â modelau rôl gwyddonol cadarnhaol a cheisio cael gwared â’n rhagfarn sylfaenol ynghylch y ffordd y dylai gwyddonydd edrych.

“Mae fy ymchwil yn seiliedig ar ddeall tarddiad llwch gofodol, y deunydd crai ar gyfer planedau creigiog fel y Ddaear a bywyd ei hun hyd yn oed.”