Cymdeithas Groesawgar a Chynhwysol: Y Camau Nesaf

Cyflawni ein Hymrwymiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi gwneud gwella ei gofnod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant [EDI] yn brif flaenoriaeth.

Rydym wedi cyflawni’r targedau EDI canlynol, a osodwyd ym mis Ionawr 2021:

  • Erbyn diwedd blwyddyn 2021-22 y Gymdeithas, bydd gan ein Cyngor a’n pwyllgorau llywodraethu gynrychiolaeth gyfartal o ddynion a menywod (ac eithrio lle mae gan bwyllgorau nifer odrif o aelodau).
  • Erbyn diwedd cylch etholiad 2021-22, byddwn wedi lleihau’r bwlch rhwng y rhywiau ar bob Pwyllgor Craffu yn sylweddol, lle mae menywod yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.
  • Bydd o leiaf 50% o’r enwebiadau ar gyfer Cymrodoriaeth ar gyfer menywod.

Rydym wedi gwneud cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae mwy sydd angen inni ei wneud, a byddwn yn gwneud hynny.


Pa mor Groesawgar a Chynhwysol yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru?

Arolwg EDI ac Adroddiad Cychwynnol: Haf 2021

Yn 2021, comisiynodd Cyngor y Gymdeithas arolwg ac adroddiad i archwilio pa mor groesawgar a chynhwysol yw’r Gymdeithas. Cwblhawyd arolwg ar-lein gan 140 o bobl, gan gynnwys Cymrodyr presennol, pobl oedd wedi cael eu henwebu ar gyfer Cymrodoriaeth ond heb fod yn llwyddiannus, a phobl oedd erioed wedi cael eu henwebu.

Cynigiodd ugain o bobl i gymryd rhan mewn cyfweliadau un i un dilynol. Cawsant gyfle i rannu a thrafod eu profiadau a’u safbwyntiau’n fwy manwl.

Mae’r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau’r arolwg. Mae’n gwneud saith prif argymhelliad ar gyfer gwella cofnod EDI y Gymdeithas.


Gweithgor EDI: Gwanwyn 2022

Mae Cyngor y Gymdeithas eisiau dangos ei fod yn cymryd adroddiad ac argymhellion y Gymdeithas o ddifrif. Bydd angen yr arbenigedd a’r lle cywir i gynnal trafodaeth fanwl ar hyn. Felly, mae’r Gymdeithas wedi penderfynu creu Gweithgor EDI.

Nod y Gweithgor yw gorffen ei adolygiad cychwynnol o’r argymhellion mewn pryd ar gyfer cyfarfod y Cyngor ym mis Hydref.

Rydym yn chwilio am Gymrodyr a hoffai fod yn rhan o’r Gweithgor hwnnw.

Aelodaeth

Bydd gan y Gweithgor EDI yr aelodau canlynol:

Tri Chymrawd:

  • Yr Athro Terry Threadgold, a fydd yn cadeirio’r grŵp ac yn adrodd i’r Cyngor ar gynnydd / argymhelliono
  • Un aelod presennol o’r Gymrodoriaeth
  • Un Cymrawd newydd o’r rheini a etholwyd yn 2022

Un arbenigwr allanol ar EDI: Rheolwr Datblygu Sefydliadol (Adnoddau Dynol) ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Enfys, Rhwydwaith LGBT+ Staff y Brifysgol

Tri aelod o staff: y Prif Weithredwr, Clerc a Swyddog Cymrodoriaeth

Gall y Gweithgor gyfethol aelodau, o’r tu mewn neu’r tu allan i’r Gymrodoriaeth, i gefnogi ei waith yn ôl yr angen.

Bydd yn dechrau gweithio cyn gynted â phosibl, ac yn cyfarfod bob mis rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2022.

Cylch Gorchwyl

Bydd y Gweithgor yn:

  • Ystyried pob un o argymhellion yr adroddiad, a chytuno p’un a ddylid:
  1. Derbyn yr argymhelliad yn llawn a chynnig camau priodol i’r Cyngor; neu
  2. Derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, ond gofyn am ragor o wybodaeth neu gyngor ynghylch sut y gellid ei weithredu; neu 
  3. Cyfeirio’r argymhelliad at gorff mwy priodol (e.e. y Pwyllgor Cymrodoriaeth), neu ei ohirio fel rhan o adolygiad ehangach o strategaeth y Gymdeithas;
  4. Gwrthod yr argymhelliad.
  • Adrodd i’r Cyngor ym mis Mehefin a mis Hydref, a gofyn am fewnbwn y Cyngor.
  • Sicrhau bod camau gweithredu cymeradwy yn cael eu cyflawni, a gweithio gyda phwyllgorau neu aelodau eraill o staff yn ôl y gofyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r gweithgor, lawrlwythwch y ffurflen gais.