Academi Heddwch: Diwrnod Heddwch Rhyngwladol

Ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol, mae Academi Heddwch wedi cyhoeddi nifer o ddatblygiadau, gan gynnwys  newyddion mai un o’n Cymrodorion, yr Athro Colin McInnes FLSW yw eu Harweinydd Rhwydwaith Ymchwil newydd.

Ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol, mae’n bleser gennym gyhoeddi’r datblygiadau cyffrous sydd wedi digwydd yn Academi Heddwch Cymru, gyda phenodi tri aelod newydd o staff. Rydym yn croesawu Dr Bethan Sian Jones fel Rheolwr Datblygu Prosiect yr Academi Heddwch; Yr Athro Colin McInnes fel ein Harweinydd Rhwydwaith Ymchwil Ysgolheigaidd a Ffion Fielding fel Rheolwr Prosiect Hawlio Heddwch, Deiseb Menywod Cymru.

Wrth feddwl am ddatblygiadau’r Academi Heddwch, dywedodd Jill Evans, un o sylfaenwyr yr Academi Heddwch:

“Mae’r Academi Heddwch wedi mynd o nerth i nerth dros y flwyddyn ddiwethaf. Cydnabyddir ei gyfraniad, a hynny’n academaidd ac o ran ei rôl mewn cymdeithas. Mae cydnabod Academi Heddwch Cymru fel partner yn rhan o Rwydwaith Rhyngwladol Sefydliadau Heddwch wedi ychwanegu at ein proffil.

“Mae cyllid Llywodraeth Cymru a’r Loteri Dreftadaeth wedi ein galluogi i recriwtio tîm ardderchog o staff, ac rydym yn rhagweld rhagor o lwyddiannau yn y misoedd i ddod. Rydym yn falch o’n llwyddiant wrth hwyluso dathliadau canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru, sy’n unigryw. Ar y cyd â’r prosiect ymchwil sydd eisoes ar waith, gall yr Academi Heddwch chwarae rhan bositif o ran gwneud Cymru’n Genedl Heddwch.”