Meddyliwr Gwefreiddiol – Dathlu Richard Price

Mae bywyd un o fathemategwyr ac athronwyr mwyaf pwysig Cymru, Richard Price, yn cael ei ddathlu mewn darlith sydd yn cael ei chyflwyno gan yr Athro Iwan Morus FLSW yng Nghymdeithas Athronyddol America yn Philadelphia ar y 12fed o Ionawr.

Mae’r ddarlith yn rhan o ddathliadau i nodi 300 mlynedd ers geni Price.

“Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio’n agos gyda Chymdeithas Athronyddol America, a bod yr Athro Morus, un o’n Cymrodyr a’n Ymddiriedolwyr, yn rhoi ei ddarlith yn amgylchedd hynod Neuadd Benjamin Franklin,” meddai Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Athronyddol America yn gwasanaethu i hyrwyddo’r syniad o wybodaeth ddefnyddiol. Dyna pam rydyn ni’n dathlu cynnydd gwyddonol, tra’n cydnabod bod cyflawniadau heddiw yn aml yn cael eu hadeiladu ar wybodaeth a ddatblygwyd ganrifoedd ynghynt.

“Roedd Price, fel meddyliwr radical, yn fwy na gwyddonydd yn unig. Mae’r gydnabyddiaeth o’i ddoniau niferus yn ein hatgoffa nad yw ysgolheictod yn gweithredu mewn gwactod.”

Price oedd Aelod Cymreig cyntaf Cymdeithas Athronyddol America (etholwyd 1785), a chafodd ddylanwad mawr ar wyddonwyr a meddylwyr gwleidyddol America. Roedd ei waith yn sail i wyddoniaeth ystadegol fodern, a helpodd ei gyfraniadau mathemategol i osod y sylfaen ar gyfer y diwydiant yswiriant bywyd heddiw. Arweiniodd ei lyfr Observations on Civil Liberty at greu amddiffyniad cryf o ddelfrydau’r Chwyldro Americanaidd, ac roedd ei ysgrifau yn fwy cyffredinol, yn helpu i ffurfio’r syniadau y tu ôl i’r Datganiad Annibyniaeth. Roedd yn ddyn yr oedd pawb yn ei adnabod hefyd – neu bron pawb – oedd yn bwysig ym mydoedd gwleidyddiaeth radicalaidd ac anghydweld crefyddol yn ystod degawdau olaf y 18fed ganrif.

Ar 28 Chwefror, bydd Llyfrgellydd Cymdeithas Athronyddol America, Patrick Spero, yn teithio i Gaerdydd i roi sgwrs o’r enw ‘Revolutionary Friendship: Richard Price, Benjamin Franklin, Thomas Jefferson, and the Cause of Independence.’