Arolwg Sgiliau ac Amrywiaeth

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cydnabod ac yn rhoi gwerth ar amrywiaeth a’r safbwyntiau gwahanol y mae pobl o wahanol gefndiroedd yn dod gyda nhw i’w gwaith a’i chyfraniad i Gymru.

Ym mis Mehefin 2017, argymhellodd y Pwyllgor Penodiadau, Llywodraethu ac Enwebiadau y dylid comisiynu adolygiad eang o waith y gymdeithas yn canolbwyntio ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad. Nod yr Adolygiad hwn (2017/18) yw sicrhau bod holl weithgareddau’r gymdeithas yn cefnogi gwerthoedd Rhagoriaeth, Amrywiaeth ac Annibyniaeth fel y’i gwelir yn y Cynllun Strategol arfaethedig (2018) mewn modd teg, tryloyw a chyfiawn.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n ei diffinio ei hun fel cynrychiolydd cydnabyddedig byd dysg Cymru’n rhyngwladol ac yn ffynhonnell o sylwadau a chyngor ysgolheigaidd a beirniadol ar faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru.

Er mwyn sicrhau hyn a gwneud y pethau hyn rhaid i’r gymdeithas, wrth iddi aeddfedu, ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan gydnabod y caiff y Gymrodoriaeth, a’i gallu i gyflenwi nodau’r gymdeithas, ei chyfoethogi’n fawr gyda’r amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau, safbwyntiau, credoau a diwylliannau a gynrychiolir yn ei staff a’i chymrodyr.

Arolwg Sgiliau ac Amrywiaeth 
Y cam cyntaf i gyflawni’r math hwn o amrywiaeth yw deall pwy yw ein Cymrodyr cyfredol a beth maent yn ei wneud er mwyn i ni gael sail gadarn i adeiladu arni. Mae angen i ni ddeall yn well pa sgiliau, profiad, ysgolheictod ac amrywiaeth sydd eisoes yn eich nodweddu chi i gyd fel Cymrodyr. Yna byddwn mewn sefyllfa well i ganfod y bylchau yn ein cronfa o dalentau ac adnoddau er mwyn i ni allu tyfu mewn modd gwybodus gyda blaenoriaethau ac felly gynyddu ein hamrywiaeth.

Y Gymrodoriaeth yw’r Gymdeithas. Gall y gymdeithas ond fod mor dda ac mor weithredol â’i Chymrodyr. Bydd ymgysylltu yn fuddiol i bawb. Pan fydd Cymrodyr yn gweithio gyda’r gymdeithas i gyflawni ei nodau a chefnogi ei gwerthoedd mae hynny yn ei dro’n ei gwneud yn bosibl i’r gymdeithas gyflawni mwy i’w Chymrodyr.

Mae eich ymatebion i’r arolwg hwn yn rhan allweddol o’r ‘cyfraniad’ hwnnw y gwnaethoch chi ymrwymiad i’w wneud ar adeg eich ethol ac ymuno â’r Gymrodoriaeth. 

Gofynnir i chi ymgysylltu â’ch Cymdeithas nawr a helpu i symud y Gymdeithas yn ei blaen mewn ffyrdd newydd a chyffrous. 

Cefnogwch eich Cymdeithas drwy gwblhau’r Arolwg Sgiliau.
Fe wyddom fod yr arolwg yn gymharol hir ac y bydd yn cymryd tua 20-30 munud i’w gwblhau, ond gallwch ei gwblhau mewn nifer o sesiynau a bydd yr amser a rowch yn fuddiol i’r gymdeithas gyfan.

Cliciwch yma i wneud yr arolwg yn Gymraeg

Cliciwch yma i wneud yr arolwg yn Saesneg