Arweinydd lleol ar restr fer gwobrau arwain cenedlaethol Cymru

Mae Martin Pollard – cyn Brif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), sydd bellach yn Brif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru – wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.

Cyhoeddodd Gwobrau Arwain Cymru 2018 (unig wobrau arwain penodol Cymru sydd wedi’u hen sefydlu) ar y cyd â’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli restr fer eleni a chynhaliwyd cyfweliadau beirniadu ddydd Iau 12 Gorffennaf gyda’r ymgeiswyr ar restr fer pob categori.

Ymhlith cyn-enillwyr y wobr mae Laura Tenison MBE, Jo Jo Maman Bébé, Mario Kreft MBE, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Gofal Pendine Park, Kelly Davies, Cyfarwyddwr Rheoli Vi-Ability, a Keith Towler, cyn Gomisiynydd Plant Cymru a Chadeirydd CWYVS.

Mae rhestr fer eleni i’w gweld yma: https://leadingwalesawards.wales/2018-leading-wales-awards-finalists/ .

Enwebwyd Martin yn y categori Arwain yn y Sector Gwirfoddol a Di-elw am ei rôl arweiniol yn WCIA ac mae’n un o bedwar ar y rhestr fer yn y categori hwn.

Dywedodd Barbara Chidgey, Cadeirydd Gwobrau Arwain Cymru: “Os bu cyfnod erioed pan fu angen arweinyddiaeth sy’n trawsnewid popeth a wnawn – dyma’r cyfnod hwnnw wrth i ni geisio trawsnewid llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru i genedlaethau’r dyfodol a chreu’r Gymru rydym ni’n dymuno ei gweld. Am y rheswm hwn, roedd Gwobrau Arwain Cymru 2018 yn chwilio am enwebeion y mae eu harweinyddiaeth yn ysbrydoli ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru, gan gyfrannu at drawsnewid eu cymuned, busnes neu sefydliad.

“Mae’r rhestr fer yn adlewyrchu safon uchel iawn ac amrywiaeth o arweinwyr yn gweithio ym mhob sector ar draws Cymru.

“Ar ran Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru hoffwn ddiolch i bawb a fu’n gweithio’n galed i enwebu a rhannu enghreifftiau mor rhagorol o “Arweinwyr yng Nghymru”. Mae’n debygol o fod yn flwyddyn gyffrous arall i unig wobrau arwain Cymru.”

Dywedodd Martin Pollard: “Mae’n anrhydedd cael bod ar restr fer Gwobrau Arwain Cymru – mae’n ffordd wych i nodi fy mod yn symud i rôl arwain newydd yn y Gymdeithas Ddysgedig. Rwyf i wedi bod ar fy ennill yn fawr o fy mlynyddoedd gyda WCIA, ac yn falch fy mod wedi gallu cyfrannu at broffil rhyngwladol Cymru. Rwyf i’n edrych ymlaen nawr at siapio strategaeth sefydliad allweddol arall yng Nghymru.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo awr ginio yn yr Hilton Caerdydd ddydd Iau 27 Medi. Mae tocynnau ar werth am £57.50. Gallwch gadw lle drwy ebostio leadingwalesawards@learningpathways.info

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Gwobrau Arwain Cymru, cysylltwch ag Alex McArthur ar 0117 2140471 neu ebost alex@mcarthur-davies.co.uk.