Bwriad Llywodraeth y DU i reoli niferoedd myfyrwyr – datganiad

Heddiw mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon a Chymdeithas Frenhinol Caeredin wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i gyhoeddiad diweddar llywodraeth y DU ar reoli niferoedd myfyrwyr sy’n hanu o Loegr.


Fel academïau ysgolheigaidd cenedlaethol yr Alban, Cymru ac ynys Iwerddon rydym ni’n bryderus ynghylch cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar reoli niferoedd y myfyrwyr sy’n hanu o Loegr.

Gwerthfawrogwn ddymuniad Llywodraeth y DU i sicrhau sefydlogrwydd yn Sefydliadau Addysg Uwch Lloegr. Fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad gan yr Adran Addysg yn Lloegr i bob pwrpas yn gosod cyfyngiadau ar sefydliadau yn y cenhedloedd datganoledig, yn hytrach na chydweithio gyda’r llywodraethau datganoledig i ddod o hyd i ddatrysiad priodol i’r pedair cenedl o ran derbyn myfyrwyr. Yn dilyn hynny, mae wedi methu ag ymdrin â’r pryderon a godwyd gan lywodraethau, prifysgolion a chyrff eraill y tu allan i Loegr.


Mae hyn yn dangos diffyg ystyriaeth i ddatganoli sy’n peri pryder, ac anogwn y Gweinidog Prifysgolion yn gryf i gysylltu’n agosach gyda’i chymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i gefnogi addysg uwch ar draws y DU ar yr adeg hon.



Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Daw ein Cymrodoriaeth ag arbenigwyr at ei gilydd o bob maes academaidd a thu hwnt. Defnyddiwn yr wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg a darparu cyngor polisi annibynnol.

Academi Frenhinol Iwerddon yw prif gorff Iwerddon o arbenigwyr yn y gwyddorau a’r dyniaethau.


Mae Cymdeithas Frenhinol yr Alban, Academi Genedlaethol yr Alban, yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yr Alban drwy ddatblygu dysg a gwybodaeth ddefnyddiol.