Tu Hwnt i Ffiniau: cydweithrediad ymchwil wedi Brexit

Bydd y cwestiwn hanfodol o sut all y DU a’r Undeb Ewropeaidd barhau i gydweithredu ar ymchwil yn dilyn Brexit yn cael ei drafod yn ystod y gynhadledd un diwrnod yng Nghaerdydd ar Ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Trefnir ‘Tu Hwnt i Ffiniau: Cryfhau cydweithrediad ymchwil rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd’ gan hwb Academia Europaea yng Nghaerdydd, a bydd yn dod â chyfranogion o Gymru, y DU ac Ewrop ynghyd.

Bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n bresennol yn y gynhadledd a bydd ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn un o’r arddangoswyr ar gyfer y digwyddiad.

Os ydych chi’n Ymchwiliwr Gyrfa Gynnar, dewch draw i’n stondin am sgwrs. Bydd nifer o Gymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cymryd rhan, gan gynnwys ein Llywydd, Yr Athro Hywel Thomas, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn yn ymwneud ag ymgysylltu â pholisi, yn ystyried pam ei fod yn bwysig a sut all ymchwilwyr chwarae eu rhan, gyda’r Athro Ole Petersen, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.