#BreakTheBias: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022
#BreakTheBias ydy thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni.
‘Whether deliberate or unconscious, bias makes it difficult for women to move ahead. Knowing that bias exists isn’t enough, action is needed to level the playing field.’
IWD 2022 campaign theme: #BreakTheBias
Mae Dr. Louise Bright, un o’n Cymrodyr, wedi treulio llawer o’i gyrfa yn hyrwyddo menywod yn y byd academaidd. Yma, mae’n myfyrio ar y thema Beat The Bias fel y mae’n berthnasol i Addysg Uwch.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn y Gymrodoriaeth. Roedd ein Cyngor (bwrdd ymddiriedolwyr) yn gytbwys o ran y rhywiau am y tro cyntaf, ac fe wnaethom ethol ein cyfran uchaf erioed o Gymrodyr (38%).
Rydym yn edrych ar y Cymrodyr benywaidd newydd hynny ac ar ehangder ac arwyddocâd eu gwaith.
Ond mae angen i ni wneud mwy. Y llynedd, fe wnaethom ymgynghori â dros 140 o bobl ar sut i wneud y Gymdeithas yn fwy croesawgar a chynhwysol. Nawr, bydd yr ymgynghoriad hwnnw’n llunio adroddiad sydd i ddod, a fydd yn sefydlu rhagor o waith a thargedau EDI uchelgeisiol.