Adeiladu Cydweithrediadau Cynhwysol mewn Ymchwil: Croesawu Gobeithion, Wynebu Ofnau  

Mae ymgysylltu â chymunedau lleol yn hanfodol ar gyfer ymchwil, nawr yn fwy nag erioed. Mae’n bwysig dros ben i ymchwilwyr gydnabod eu gobeithion a’u hofnau wrth weithio gyda chymunedau lleol. Sut mae’r rhagdybiaethau hyn yn dylanwadu ar eu hymgysylltiad?

Yn ddiweddar, amlinellodd Llywodraeth Cymru flaenoriaethau ar gyfer y CTER sydd newydd ei sefydlu, gan bwysleisio’r angen am addysg, ymchwil ac arloesi er budd cymdeithas a chymunedau lleol.

Ond beth mae hyn yn ei olygu i ymchwilwyr?  

Bydd ein gweminar diweddaraf ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn ymchwilio i’r cwestiwn hwn. Byddwn yn archwilio’r manteision a’r anfanteision o ddefnyddio dulliau ymchwil sy’n seiliedig ar le ac sy’n cynnwys cydweithio â chymunedau.

Rhaid i ymchwilwyr ddysgu goresgyn rhwystrau wrth weithio gyda phartneriaid anacademaidd. Gall defnyddio arferion cynhwysol wneud ymgysylltu’n fwy effeithiol. Yn hytrach na dilyn diddordebau academaidd yn unig, gall ymchwil gael ei sbarduno gan berthnasoedd lleol a thystiolaeth sydd yn cael ei siapio gan anghenion y gymuned.

Mae’r ffordd hwn o weithio yn cael ei gefnogi gan y Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol (LCRO) ym Mhrifysgol Abertawe. Yn y weminar, bydd Dr Tom Avery sy’n gweithio gyda’r LCRO, yn trafod ffyrdd o weithio sy’n seiliedig ar le, sy’n blaenoriaethu cynnwys cymunedau mewn ymchwil.

Yn ogystal, bydd y weminar yn tynnu sylw at astudiaethau achos eraill, fel yr astudiaeth ACTIF o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a’r prosiect ar Feicio Cynhwysol yng Nghymru dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, sydd yn cael ei ariannu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Bydd Dr Zsofia Szekeres, ymchwilydd gyrfa gynnar mewn seicoleg ymarfer corff yn rhannu mewnwelediadau o’i phrofiadau gyda’r prosiect ACTIF, ac yn canolbwyntio’n benodol ar ymchwil yn y gymuned gydag oedolion hŷn.

Ochr yn ochr â hyn, bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn trafod sut y gwnaethant weithio gyda phedwar sefydliad lleol fel rhan o brosiect ymchwil a dderbyniodd arian gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a geisiodd fynd i’r afael â’r rhwystrau i feicio cynhwysol.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y siaradwyr a theitlau’r sesiwn yma.