Derbyniad Cymrodyr Caerdydd: y digwyddiad mewn lluniau

Cynhaliwyd trydydd derbyniad ar gyfer ein Cymrodyr yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ddechrau mis Rhagfyr. Yn dilyn digwyddiadau tebyg yn Aberystwyth ac Abertawe, roedd hwn yn achlysur difyr arall i’r Cymrodyr newydd arwyddo Cofrestr y Cymrodyr, ac i ffrindiau a chydweithwyr gyfarfod â’i gilydd. Bydd y digwyddiad oedd wedi’u gynllunio ym Mangor yn cael ei aildrefnu ar gyfer y flwyddyn newydd.