Cynghrair yr Academïau Celtaidd: Arddangosfa Ymchwil ac Arloesedd Cymru-Iwerddon
4 Mawrth, 2024
Hoffai Cynghrair yr Academïau Celtaidd (Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin) eich gwahodd i arddangosfa effaith a rhagoriaeth ymchwil a grëwyd drwy gydweithrediadau rhwng Cymru, yr Alban ac Iwerddon. Bydd y digwyddiad yn Nulyn ar 12 Mawrth yn cynnwys:
- manylion ymchwil wedi ei ariannu gan Gymru Ystwyth i hanes Gwyddelig- ac Iddewig-Gymreig gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg y Drindod;
- trafodaeth ar gydweithrediadau ymchwil llwyddiannus rhwng Iwerddon a Chymru;
- cyflwyniadau ar wersi gan Grantiau Rhwydwaith Dwy Ochrog Iwerddon-yr Alban;
- trafodaeth banel ynghylch meithrin cysylltiadau ymchwil agosach rhwng Cymru ac Iwerddon.