Colocwiwm Cyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Arddangos Bywiogrwydd Diwylliant Ymchwil Cymru

Roedd pwysigrwydd cynyddol Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru i ddiwylliant ymchwil Cymru i’w weld yng ngholocwiwm cyntaf y rhwydwaith, a gynhaliwyd yn Abertawe ar 6 Gorffennaf.

Mynychodd dros hanner cant o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ddiwrnod o drafodaethau, gweithdai, sgyrsiau cyflym a rhwydweithio, yng nghwmni Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru a gwesteion o Addysg Uwch Cymru. Roedden nhw’n dod o sawl disgyblaeth a phrifysgol ar draws Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, Wrecsam, Bangor, Abertawe, YDDS, Met Caerdydd a Chaerdydd.

Roedd y thema gyffredinol o greu Cymru lewyrchus yn cynnwys canolbwyntio ar sut i adeiladu gyrfa ymchwil lwyddiannus.

“Roedden ni wrth ein boddau gyda sut aeth y colocwiwm,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Swyddog Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Dangosodd sut y gall Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar weithredu fel cydlynydd, gan ddod ag Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar a Chymrodyr y Gymdeithas at ei gilydd mewn ffordd gynhyrchiol, sy’n cyfrannu at wneud Cymru’n lle gwych i fod yn ymchwilydd ynddi.

“Rydym yn gobeithio y bydd llwyddiant y digwyddiad yn annog mwy o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar i ymuno â’r Rhwydwaith.”

Roedd cyfres o gyflwyniadau poster a sgyrsiau cyflym yn dangos rhywfaint o’r ymchwil a allai chwarae rhan mewn darparu ffyniant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.

Roedd y rhain yn cynnig cyfle i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar dderbyn adborth gan rai o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, rhan o gylch gwaith y Gymdeithas i ddatblygu rhwydweithiau cryf ac annog cydweithredu ar draws disgyblaethau a sectorau academaidd.

Yn ogystal â chaniatáu i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ddangos eu gwaith, roedd y colocwiwm yn cynnwys gweithdai ar y broses adolygu cymheiriaid, sut i ysgrifennu ceisiadau grant, ac arweinyddiaeth gydweithredol.

Roedd yn cynnwys prif araith hefyd gan yr Athro Uzo Iwobi FLSW, a amlinellodd y “pandemig hiliaeth” sy’n ein hwynebu, a phwysleisiodd rôl ymchwil wrth gasglu’r dystiolaeth a’r data sydd eu hangen i helpu i greu cymdeithasau gwrth-hiliol.

Mae’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar eisoes yn cynllunio gweithdai a digwyddiadau yn y dyfodol. I fod yn rhan o’r Rhwydwaith, cofrestrwch i’n rhestr bostio.