Comisiwn Cyfansoddiad yn adnabod cyfleodd ar gyfer Cymru

Roedd arloesedd democrataidd, cryfhau cysylltiadau rhynglywodraethol, a thrafod ai datganoli neu annibyniaeth fyddai fwyaf addas i Gymru ymysg yr argymhellion o fewn adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw.

Cafodd y Comisiwn, a gafodd ei arwain gan ddau Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, y dasg o gynnal sgwrs genedlaethol ar gyfansoddiad Cymru.

Daeth adroddiad interim y Comisiwn i’r casgliad, er bod datganoli yn gam mawr ymlaen i ddemocratiaeth Cymru, ‘bod gallu pobl Cymru, a’u cynrychiolwyr etholedig i benderfynu sut y dylid eu llywodraethu, yn cael ei gyfyngu’n ddifrifol.’

Nawr, yn yr adroddiad terfynol hwn sy’n dilyn ymgynghoriad eang mawr, mae’n dod i’r casgliad: ‘Ar y sail hon nid yw’n bosibl adnabod un ‘ateb’ i lywodraethiant Cymru. Mae’r penderfyniad ar yr hyn sydd orau i Gymru yn dibynnu ar werthoedd a dewisiadau. Po fwyaf yw graddfa’r newid, y mwyaf yw’r cyfleoedd a’r risgiau.’

Meddai Fiona Dakin, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae hwn yn adroddiad pwysig sy’n annog sgwrs genedlaethol.

“Mae strategaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ein hymrwymo i gyfrannu at atebion polisi mawr, drwy ddarparu cyngor annibynnol.

“Rydym yn falch o weld ein sylwadau parthed pwysigrwydd cysylltiadau rhynglywodraethol da a setliad ariannol cadarn ar gyfer Cymru, yn cael eu hadlewyrchu o fewn yr adroddiad. 

“Mae’r angen am addysg ddinesig a gwleidyddol hefyd yn cyd-fynd gyda llawer o waith Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Byddwn yn astudio’r adroddiad yn agos, i weld pa oblygiadau sydd ganddo i bolisi addysg uwch.”