Y Gymdeithas Ddysgedig yn croesawu 48 Cymrawd Newydd

Mae deugain ac wyth o unigolion wedi ymuno â ni yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru yn Gymrodyr etholedig newydd. Mae ein Cymrodyr newydd wedi cyfrannu at fyd dysg fel ymchwilwyr, academyddion a phobl broffesiynol – ac mae gan bob un gyswllt cryf â Chymru.

Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae’n bleser gennym yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi canlyniadau etholiad 2019 gyda Chymrodyr newydd yn rhychwantu’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a thu hwnt.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.

Mae’r etholiad hwn yn cryfhau ein Cymrodoriaeth nid yn unig drwy ychwanegu 48 o Gymrodyr newydd, gan gynnwys un Cymrawd er Anrhydedd, ond drwy gyfoethogi ein cronfa o arbenigedd. Erbyn hyn mae gan y Gymdeithas 540 o Gymrodyr nodedig o bob cangen dysg sydd yn ffigurau amlwg yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau perthnasol.

Ceir rhestr lawn o’r Cymrodyr newydd yma.

 

 

 

 

 

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru “Rwyf i wrth fy modd yn croesawu 48 o Gymrodyr newydd i’r Gymdeithas. Mae eu hetholiad yn cydnabod eu llwyddiannau unigol a’u cyfraniadau i fyd dysg ac rwyf i’n falch eu bod yn cwmpasu’r fath rychwant o ddisgyblaethau ymchwil a thu hwnt. Bydd ychwanegu’r Cymrodyr newydd hyn yn cryfhau ein gallu i hyrwyddo rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus yng Nghymru a thramor.”

Eleni mae’r Athro Syr Stephen Patrick O’Rahilly wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Athro O’Rahilly wedi derbyn nifer fawr o wobrau ac anrhydeddau am ei astudiaethau arloesol ar eneteg gordewdra ac ymwrthedd inswlin a’i arbenigedd mewn ymchwil biofeddygol, ac rydym yn falch i ychwanegu at y rhestr honno drwy groesawu’r Athro O’Rahilly.

Rydym ni hefyd wedi ethol 15 cymrawd newydd o feysydd y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol eleni a 26 cymrawd o feysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM).

A ninnau’n ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth o bob sector o fywyd dysgedig, rydym ni hefyd wedi ethol chwe chymrawd newydd yn ein trydydd categori sef ‘Arweinyddiaeth, y Proffesiynau, Gwasanaeth Cyhoeddus ac Ymgysylltu Cyhoeddus’.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, ac rydym ni’n defnyddio gwybodaeth ein harbenigwyr i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg a darparu cyngor polisi annibynnol. Mae ychwanegu Cymrodyr newydd bob blwyddyn yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nodau hyn drwy ein galluogi i dynnu ar arbenigedd a chryfder sylweddol ein Cymrodoriaeth gynyddol.

Etholiad 2019 yw’r nawfed mewn proses dreigl at adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd ein ffocws parhaus ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r elfennau gorau sydd gan Gymru i’w cynnig o fyd dysg.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r Gymdeithas, Ruby Moore:

rmoore@lsw.wales.ac.uk / 029 2037 5054