Dathlu cydweithio Celtaidd yn Nulyn

“Er bod cymaint yn y byd yn newid yn gyflym, bydd Cymru, Iwerddon a’r Alban bob amser yn gymdogion.”

Cynhaliodd Cynghrair yr Academïau Celtaidd, a ffurfiwyd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, RSE a’r Academi Frenhinol Wyddelig, ddigwyddiad Arddangos Ymchwil ac Arloesi Iwerddon-Cymru ar ddydd Mawrth, 12 Mawrth yn Nulyn.

Pwysleisiodd ymchwilwyr o ystod eang o ddisgyblaethau – microbioleg y môr, twristiaeth treftadaeth, hanes Iddewig – fanteision y cydweithio rhwng Iwerddon-Cymru yn y maes ymchwil. Roedd y siaradwyr yn cynnwys yr Athro Mary-Ann Constantine, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), a siaradodd am brofiad blaenorol gyda Chyllid Rhyngranbarthol yr UE, a’r Athro Nathan Abrams, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Prifysgol Bangor) a’i gydweithredwr Dr Zuleika Rodgers (Coleg y Drindod Dulyn), a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am eu Cynllun Grant Rhwydweithio Cymru Ystwyth Iwerddon-Cymru a reolir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Gwahoddwyd Dr Jessica Kevill (Prifysgol Bangor) a Niamh Cahill (Prifysgol Galway) i gynrychioli prosiect amlochrog BlueAdapt Horizon Ewrop. Clywsom hefyd gan Dr Ciara Healy-Musson (Sefydliad Technoleg Carlow), yr Athro Mary Modeen (Prifysgol Dundee), a Dr Melanie Ramdarshan Bold (Prifysgol Glasgow), sydd wedi derbyn Grantiau Rhwydweithio Ymchwil RSE-RIA Iwerddon-Yr Alban, sy’n fodel llwyddiant ar gyfer cyllid dwyochrog.

Canfu’r ymchwilwyr fod rhannu adnoddau ac arbenigedd ar draws Môr Iwerddon wedi arwain at ymchwil gwell, a mwy effeithlon. O nofio gwyllt mwy diogel i gynwysoldeb o ran llythrennedd plant, yr edefyn cyffredin trwy gydol y digwyddiad oedd y buddion ystyrlon i’n cymunedau sy’n cael eu dyfnhau trwy gydweithredu rhyngwladol.

Er bod cymaint yn y byd yn newid yn gyflym, bydd Cymru, Iwerddon a’r Alban bob amser yn gymdogion. Nododd siaradwyr y pethau sy’n gyffredin rhwng y gwledydd Celtaidd: tebygrwydd o ran diwylliant, maint a daearyddiaeth; diwylliant o academia ac ysgolheictod sy’n rhagor ar bob disgwyliad; ac awydd ar y cyd i symud i ffwrdd o ymchwil draddodiadol Eingl-ganolog a Llundain-ganolog. Mae’r gwirioneddau y mae ymchwilwyr yn eu hastudio yn drawswladol yn eu hanfod ond mae cynlluniau cyllido fel arfer yn rhai unigol, penodol; dyna pam mae cytundebau cyllido rhyngwladol mor bwysig.

Bu panel yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Olivia Harrison, Cyfarwyddwr Gweithredol RIA Dr Siobhán O’Sullivan, a Dirprwy Bennaeth Swyddfa Iwerddon Llywodraeth yr Alban, Paddy Makin, yn trafod manteision penodol darparu cyllid drwy academïau cenedlaethol. Nododd Makin, o safbwynt y llywodraeth, fod academïau yn dod ag arbenigedd eu cymrodoriaeth i gyfarwyddo themâu’r ymchwil a ariennir gan y cynllun. Mae hyn yn dod â phynciau newydd o bwys i sylw llunwyr polisi, pynciau nad ydynt efallai wedi meddwl amdanynt o’r blaen. Rhoddwyd clod i Lywodraeth Cymru am gydnabod gwerth ychwanegol cryfhau cysylltiadau rhwng yr academïau. Nododd cyn uwch is-lywydd yr RIA, yr Athro Gerry McKenna hefyd yr hirhoedledd a’r sefydlogrwydd y mae academïau cenedlaethol yn eu cynnig: mae RIA ac RSE wedi bodoli ers canrifoedd ac, er mai dim ond pedair ar ddeg oed yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ein huchelgais yw chwarae rôl gadarn yn nyfodol Cymru.