Ddechrau eu Gyrfa, Creu Llesiant: Ymchwil ac Arfer – YCG Gweminar

Mae’r astudiaeth o lesiant, beth ydyw, sut mae’n cael ei fesur, a sut y gallwn ei greu a’i gynnal, wedi profi twf mewn astudiaeth academaidd i’r maes.

Bydd ein digwyddiad Rhwydwaith i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, Creu Llesiant: Ymchwil ac Arfer, yn cyflwyno peth o’r ymchwil diweddaraf o brifysgolion Cymru.

Bydd y sesiwn yn mynd i’r afael â dulliau seiliedig ar drawma o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, llesiant ar gyfer glasoed lleiafrifoedd rhywedd a’r defnydd o strategaethau ymwybyddiaeth ofalgar a seiliedig ar y corff er mwyn creu llesiant a rheoli iechyd meddwl.

Bydd cyfle hefyd i rannu strategaethau personol i gynnal llesiant gyda mynychwyr eraill. Bydd y sesiwn o ddiddordeb arbennig i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa sydd eisiau dysgu am adnoddau all gynorthwyo gyda straen a gorbryder.  Bydd y weminar yn cael ei chadeirio gan Ann John FLSW, Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe.