Diwrnod Heddwch y Byd: Holl brifysgolion Cymru’n ymrwymo i sefydlu Academi Heddwch Cymru

Heddiw, ar Ddiwrnod Heddwch y Byd, gellir cyhoeddi bod pob prifysgol yng Nghymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ynghyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, er mwyn sefydlu Academi Heddwch Cymru.

Diben yr Academi Heddwch yw ymestyn traddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo a gweithio dros heddwch.

Drwy ddatblygu a chyd-drefnu cymuned annibynnol o ymchwilwyr mewn meysydd cysylltiedig, bydd yn gweithio i roi heddwch yn gadarn ar yr agenda cenedlaethol. Ar y llwyfan rhyngwladol, bydd yn dod yn rhan o rwydwaith byd-eang o sefydliadau heddwch.

Yr amcanion cyffredinol yw sicrhau bod:

  • Cymru’n gwneud cyfraniad i ymchwil ac ymarfer heddwch, gyda’r ymchwil hwnnw o ansawdd a gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol
  • ffocws ar heddwch i’w weld yn strategaethau a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru
  • y cyhoedd yn ymddiddori’n fyw yn ymchwil ac ymarfer heddwch yng Nghymr

Cefndir

Yn 2014 cefnogodd y Senedd/Cynulliad Cenedlaethol egwyddor sefydlu yr Academi Heddwch, gan gydnabod y gallai ‘ychwanegu gwerth i waith y Cynulliad ac i gymdeithas ddinesig yn ehangach’. Arweiniodd hyn at sefydlu Menter Academi Heddwch Cymru (elusen fach a ffurfiwyd yn 2015).

Meddai Jill Evans, a fu’n cadeirio Menter Academi Heddwch Cymru:

“Wedi misoedd o gyd-drafod, mae’n newyddion ardderchog i weld bod yr Academi Heddwch bellach yn barod i ddechrau ar ei waith o’i gartref yn y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd.

“Mae ganddo’r potensial i wneud cyfraniad pwysig i hybu heddwch a chyfiawnder yng Nghymru a thu hwnt.”

Pam bod angen Academi Heddwch ?

Mewn cyfnod o heriau cenedlaethol a byd-eang nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen, mae’n rhaid i Gymru chwarae ei rhan yn llunio dyfodol heddychlon. Mae gwaith ysbrydoledig o ran heddwch eisoes yn digwydd yng Nghymru, ond gellir ei gydlynu a’i gydnabod yn well.

Gwelwyd cynnydd arwyddocaol wrth geisio unioni’r cam hwn, gyda phrosiect arloesol ‘Cymru dros Heddwch’, ac wrth i’r prosiect dynnu i’w derfyn, gall yr Academi Heddwch sicrhau bod gwaddol pwysig y gwaith yn parhau.

Gall Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg, weld manteision y cynllun:

“Mae’r Academi Heddwch yn gynllun amserol a all gyfrannu at uchelgais heddwch Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

“O ran y gwaith adref a thramor, mae mewn sefyllfa unigryw i ddatblygu agenda heddwch yng Nghymru a thramor wrth i’r gwaith o adfer cymdeithas yn nyddiau’r pandemig fynd rhagddo.”