Dyddiad i’r Dyddiadur!
ECR Event – Access to Medicines: The Impact of Social Inequalities
Dydd Mawrth 28 Mehefin, am 4:00- 6:00 pm
Nod y bwrdd crwn yw trafod materion ynghylch mynediad at feddyginiaeth dan fframwaith y gyfraith hawliau dynol ryngwladol, mynd i’r afael â’r tensiynau a all godi pan mae buddion cyhoeddus a phreifat yn croesi ar draws ei gilydd o safbwynt rhyngddisgyblaethol.
Wedi’i drefnu ar y cyd ag aelodau’r Rhwydwaith i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar a chyda chefnogaeth gan Gymrodorion y Gymdeithas, bydd y digwyddiad ar-lein yn berthnasol i ymchwilwyr ar draws disgyblaethau academaidd, megis y gyfraith, hawliau dynol, iechyd byd-eang, meddyginiaeth, a gwleidyddiaeth ryngwladol a’r rheini sy’n gweithio i wahanol sefydliadau, megis y GIG a’r Senedd.
Mae aelodau’r panel yn cynnwys:
Dr Lowri Davies
Darlithydd yn y Gyfraith, Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe.
Yr Anthro Ruth Northway, OBE
Athro Nyrsio Anabledd Dysgu ac Pennaeth Ymchwil y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Prifysgol De Cymru.
Rhian Thomas-Turner
Arweinydd Ymchwil a Datblygu NACHfW (Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru) ac Arweinydd Gweithredol CYARU (Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc).
Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan:
Yr Anthro John Harrington
Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru ac Athro Cyfraith Iechyd Byd-eang, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’n cyd-gyfarwyddo Y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-Eang Caerdydd, sef canolfan ymchwil ym Prifysgol Caerdydd.
Mae’r digwyddiad ar-lein, am ddim ac ar agor i bawb.