Ein hymrwymiad i ragoriaeth

Ym mis Awst, diolch i waith ein staff, derbyniom ni nod ansawdd y Fframwaith Rhagoriaeth Elusennau.

Mae’r nod hwn yn dystiolaeth weladwy i gyllidwyr a rhanddeiliaid eraill o’n hymrwymiad i ragoriaeth. Roedd yr asesiad ar gyfer y marc yn cynnwys pob maes gweithgaredd o hyrwyddo llywodraethu da i gynyddu ein heffaith strategol.

Roeddem ni’n gobeithio drwy gwblhau’r asesiad y byddem yn dod i weld pa feysydd y gallem eu gwella. Roeddem ni’n falch iawn i weld ein bod ni eisoes yn dangos ein hymrwymiad i ragoriaeth yn ddigonol i ennill y nod. Fodd bynnag mae ffyrdd y gallwn wella. Mae’r fframwaith wedi cynnig nifer o adnoddau rydym ni’n bwriadu eu defnyddio i roi’r polisïau a’r arferion gorau ar waith ar draws gweithgareddau’r Gymdeithas. Mae’r asesiad hefyd wedi ein helpu i nodi pa feysydd i ganolbwyntio arnynt.