Ethol Cymrodyr er Anrhydedd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Am y tro cyntaf yn hanes y Gymdeithas, mae dau Gymrawd er Anrhydedd wedi’u hethol.

Syr Michael Atiyah yw un o fathemategwyr mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth, a gydnabyddir yn eang fel arloeswr ym maes datblygu mathemateg yn y DU ac yn Ewrop. Mae Syr Michael yn ymchwilydd hynod o nodedig ac wedi’i anrhydeddu’n helaeth am ei lwyddiannau, gan gynnwys ennill Medal glodfawr Fields a gwobr Abel. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Frenhinol (1990-1995) ac yn Llywydd Cymdeithas Frenhinol Caeredin (2005-2008).

Dywedodd Syr Michael Atiyah:

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n ymgorffori hanes diwylliannol cyfoethog Cymru, gyda’i thraddodiadau hynafol yn addasu i’r dyfodol, ac rwyf i wrth fy modd cael dod yn Gymrawd er Anrhydedd.

Yr Athro Martin Rees, yr Arglwydd Rees o Lwydlo, yw un o ddeallusion cyhoeddus amlycaf y DU – cosmolegydd, astroffisegydd a’r Seryddwr Brenhinol gyda record ryfeddol o ymgysylltu â’r cyhoedd o ran gwyddoniaeth. Mae’r Arglwydd Rees wedi ennill Medal Aur y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol, Gwobr Gwyddoniaeth Byd Albert Einstein a Gwobr Michael Faraday y Gymdeithas Frenhinol, mae’n gyn-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol (2005-2010) ac yn Arglwydd Oes yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd yr Arglwydd Rees:

Rwyf i wrth fy modd cael fy ethol yn Gymrawd er Anrhydedd. Fe’m magwyd mewn pentref yn Swydd Amwythig ar ‘ochr anghywir’ y ffin. Fodd bynnag mae gennyf gysylltiadau cryf gyda rhai sefydliadau yng Nghymru ac rwyf i’n edrych ymlaen at gyfranogi yng ngweithgareddau’r Gymdeithas.

Mae’n hyfrydwch ac yn fraint o’r mwyaf i mi ymuno â’r Gymdeithas!