Hwyl Fawr, Janice…

Mae Janice Gillian, ein swyddog cyllid, yn cau ei thaflen Excel am byth ac yn ymddeol ar ôl chwe blynedd yn gofalu am ochr ariannol y Gymdeithas a dod â synnwyr da tawel i eiliadau o banig.

Ymunodd Janice â’r gymdeithas ym mis Medi 2016. Helpodd i drawsnewid prosesau cyllid y Gymdeithas, wrth i ni symud i ffwrdd o ddefnyddio’r gwasanaethau oedd yn cael eu darparu gan Brifysgol Cymru ers ein sefydlu.

Mae’r systemau annibynnol a thrylwyr a sefydlodd yn parhau i fod yn sylfaen i arferion a datblygiad y Gymdeithas.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, PLSW:

Mae bob amser ychydig yn drist dweud hwyl fawr wrth gydweithwyr rhagorol pan fyddant yn gadael, ac nid yw achos Janice yn eithriad.

Rydym wedi bod yn lwcus iawn o fod wedi cael budd o’i gwasanaeth ers cynifer o flynyddoedd. Mae ei dull trwyadl o ymdrin â’n cyllid wedi ein helpu’n fawr. Mae hi’n gadael y llyfrau mewn siâp gwych.

Mae natur ei swydd yn y Gymdeithas yn golygu ei bod wedi gorfod delio’n bersonol â’r Gymrodoriaeth, ac mae hi wedi gwneud hynny yn broffesiynol iawn bob amser. Mae hi hefyd yn chwaraewr tîm gwych, fel y gwelwyd yn ddiweddar pan drefnodd ddigwyddiadau cymdeithasol ein Cymrodyr wyneb yn wyneb yn Aberystwyth ac Abertawe.

Rydym yn teimlo’n drist am ei cholli ond ar yr un pryd, hoffem ddymuno ymddeoliad gwych, hir a hapus iddi. Bydd braidd yn rhyfedd i mi’n bersonol, fel dyn o Ogledd Sir Gaerfyrddin (Llanymddyfri) yn wreiddiol, golli cangen Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Myddfai!

Diolch am bopeth Janice.

I ffwrdd o gyllid, mae Janice wedi chwarae rhan allweddol mewn llawer o weithgareddau a digwyddiadau eraill y Gymdeithas. Roedd hi’n allweddol i lwyddiant y Symposiwm Rhyngwladol a gynhaliwyd gennym yng Nghaergrawnt, gan helpu i ddenu mynychwyr amrywiol o bob rhan o Gymru a’r byd i Goleg Magdalene; ac ni ddylsem anghofio am y trip ar hyd yr afon Cam.

Fel y dywed Dr Sarah Morse, ein Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, “llawer o’r hyn y mae Janice wedi’i wneud yw’r pethau ‘sydd ddim yn cael eu gweld’ sy’n cadw popeth yn tician drosodd, y pethau y gellir eu cymryd yn ganiataol.”