Arolwg Haf i Gymrodyr: Eich Barn Chi

Diolch yn fawr i’r nifer fawr o Gymrodyr a gwblhaodd ein harolwg haf, a ymchwiliodd i sut yr hoffech chi gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Dyma grynodeb o’r ymatebion.

  • Cwblhaodd cyfanswm o 91 o Gymrodyr ein harolwg haf. O’r rhain, atebodd 79 yr holl gwestiynau..

Y tri phrif ateb mewn ymateb i’n cwestiwn am sut y gall y Gymdeithas helpu yn yr ymateb i Covid-19 oedd:

  1. Trefnu digwyddiadau traws-ddisgyblaethol i drafod yr oblygiadau ehangach a’r atebion i’r argyfwng (e.e. yn cwmpasu gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth a’r economi)
  2. Trefnu digwyddiadau (naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein) i drafod oblygiadau Covid-19 ar gyfer addysg uwch ac ymchwil
  3. Datblygu cyfeiriadau o Gymrodyr sydd â phrofiad perthnasol a sicrhau fod hyn ar gael i wneuthurwyr polisi ac eraill

Y tri phrif ateb mewn ymateb i’n cwestiwn am sut yr hoffai Cymrodyr fod yn rhan o weithgareddau’r Gymdeithas oedd:

  1. Cyfrannu at bapurau polisi neu ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus/galwadau am dystiolaeth
  2. Cyfrannu at ddigwyddiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein
  3. Cynorthwyo ymchwilwyr gyrfa cynnar

Diolch i bawb a gymerodd ran. Byddwn yn dadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio arbenigedd Cymrodyr. Os nad oedd modd i chi lenwi’r arolwg ond bod gennych gefnogaeth i’w gynnig, anfonwch e-bost yn syth at y Prif Weithredwr, Martin Pollard.