Prif Weinidog Cymru yn Cyfarfod â Chymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaid i Drafod Cynghrair Academïau Celtaidd

Cymerodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, ran mewn trafodaethau am dwf Cynghrair Academïau Celtaidd [CAA] mewn cyfarfod a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin, gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Academi Frenhinol Wyddelig.

Ffurfiwyd y Cynghrair Academïau Celtaidd yn 2021 ac mae’n dwyn ynghyd yr arbenigedd eang o fewn y dair academi i lywio datblygiadau polisi cyhoeddus sy’n effeithio ar Gymru, yr Alban ac Iwerddon. Mae’n darparu fforwm i ymchwilwyr, llunwyr polisi, diwydiant, a’r sectorau celfyddydol a diwylliannol i gyfathrebu a chydweithio, tra’n cryfhau dealltwriaeth ar lefel y DU am faterion sy’n wynebu’r cenhedloedd datganoledig.

Celtic Academies Alliance

Rhoddodd y cyfarfod yng Nghaeredin gyfle i’r Prif Weinidog gwrdd ag arweinwyr a Chymrodyr yr academïau, a thrafod gwaith a chynlluniau’r Cynghrair Academïau Celtaidd ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Olivia Harrison, a fynychodd ynghyd â Llywydd y Gymdeithas, yr Athro Hywel Thomas, a’r Is-lywydd (HASS), yr Athro Helen Fulton: “Roedd y Prif Weinidog yn awyddus i archwilio slogan Cymdeithas Frenhinol Caeredin ‘knowledge made useful’. Mae hyn yn ganolog i genhadaeth y dair academi. Rydym ni yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, er enghraifft, wedi chwarae rhan bwysig fel pont rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisi, trwy ein trafodaethau bord gron diweddar ar arloesi. Mae’r rhain wedi helpu i lywio strategaeth arloesi newydd Llywodraeth Cymru.