Y Gymdeithas Ddysgedig yn croesawu 45 Cymrawd Newydd
Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru groesawu 45 o academyddion, ymchwilwyr a phobl broffesiynol i’w Chymrodoriaeth.
Ymhlith y Cymrodyr newydd mae academyddion o nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru a’r DU, yn ogystal ag unigolion sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas am yr aelodau newydd:
‘Rwyf i wrth fy modd yn gweld ethol 43 o Gymrodyr newydd, sydd unwaith eto’n dangos y talentau sy’n gysylltiedig â Chymru, fydd yn atgyfnerthu gwaith y Gymdeithas, yn cydnabod rhagoriaeth, hyrwyddo ymchwil a defnyddio ein harbenigedd i wasanaethu’r Genedl.’
Yn ogystal, etholwyd y Fonesig Jocelyn Bell Burnell, a gyd-ddarganfu pylsarau pan oedd yn fyfyriwr ôl-raddedig, a’r hanesydd a darlithydd Reith y BBC yr Athro Margaret MacMillan, sy’n adnabyddus am ei hymchwil ar yr Ymerodraeth Brydeinig a chysylltiadau rhyngwladol, yn Gymrodyr Er Anrhydedd y Gymdeithas.
Dywedodd Syr Emyr:
‘Mae ethol y ddwy hyn sy’n uchel eu bri yn Gymrodyr Er Anrhydedd yn sicrhau rhagoriaeth bellach i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.’
Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.
Mae’r etholiad hwn yn cryfhau ein Cymrodoriaeth nid yn unig drwy ychwanegu 48 o Gymrodyr newydd, gan gynnwys un Cymrawd er Anrhydedd, ond drwy gyfoethogi ein cronfa o arbenigedd. Erbyn hyn mae gan y Gymdeithas 540 o Gymrodyr nodedig o bob cangen dysg sydd yn ffigurau amlwg yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau perthnasol.