Gofal ein Gwinllan

Ffrwyth prosiect uchelgeisiol sy’n olrhain cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant dros y canrifoedd yw’r gyfrol Gofal ein Gwinllan, a gyhoeddwyd erbyn Eisteddfod Genedlaethol 2023.

Ceir yn y gyfrol hon 14 o erthyglau sy’n trafod y cyfnod rhwng cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn yr 16eg ganrif a diwedd y 18fed ganrif. Mae’n cynnwys astudiaethau o unigolion allweddol, megis Edmwnd Prys, y Ficer Prichard a Griffith Jones Llanddowror, ac yn cwmpasu nifer o bynciau pwysig, gan gynnwys mudiadau addysgol y cyfnod, canu mawl, clasuron rhyddiaith y 18fed ganrif, a chyfraniad merched i fywyd yr Eglwys.

Man cychwyn y gyfrol oedd cyfres o seminarau misol trwy gyfrwng Zoom, ac mae recordiadau o’r seminarau gwreiddiol ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Fel y seminarau, bwriad y gyfrol yw rhoi cyflwyniadau poblogaidd i’r bobl a’r pynciau dan sylw. Wedi dweud hynny, mae’r holl gyfranwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn dra hysbys ym myd ysgolheictod a’r diwylliant Cymraeg, fel y gwelir o’r ffaith fod naw ohonynt, gan gynnwys golygyddion y gyfrol, yn aelodau o Gymdeithas Ddysgedig Cymru: Ceri Davies, Dylan Foster Evans, Rhiannon Ifans, Christine James, E. Wyn James, A. Cynfael Lake, D. Densil Morgan, Huw Pryce, ac Eryn M. White.

Hon yw’r gyntaf mewn cyfres arfaethedig o gyfrolau a fydd yn dwyn yr hanes i lawr hyd at heddiw. Ac er mai canoli ar ffigyrau o’r Eglwys yng Nghymru y mae’r gyfrol, bydd o ddiddordeb i bawb sy’n trysori etifeddiaeth ddiwylliannol y genedl.

A. Cynfael Lake a D. Densil Morgan (goln), Gofal ein Gwinllan: Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i’n Llên a’n Hanes a’n Diwylliant, cyf. 1 (Y Lolfa, 2023), x+196 tud., £12.