Medal Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithas, Addysg a Busnes 2018

Dyfarnwyd Medal Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithas, Addysg a Busnes i Dr Dawn Mannay, Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddorau Cymdeithasol (Seicoleg) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau’n gysylltiedig â dosbarth, rhywedd ac addysg, ac yn tynnu ar fethodolegau creadigol a chyfranogol.

Dywedodd Dr Mannay:

“O ystyried hanes Medal Dillwyn ac enw da Cymdeithas Ddysgedig Cymru, roedd yn anrhydedd cael fy enwebu a derbyn yr wobr hon. Mae wedi bod yn gyfle gwych i fi astudio ac yna addysgu yng nghyd-destun Cymru, ac rwy’n gobeithio parhau gyda fy ymchwil a gweithio gyda myfyrwyr i sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu cenedlaethau newydd o raddedigion a all gyfrannu at greu tirwedd gymdeithasol ac economaidd fwy cyfartal a gwell”.