‘Heddwch ac Iechyd’: Cynhadledd Undydd
Yn ôl ym 1938, nid ar ddamwain yr enwyd yr adeilad newydd yng ngerddi Cathays, Caerdydd, yn ‘Y Deml Heddwch ac Iechyd’. Yn wyneb heriau heddiw, dyma gynhadledd a fydd yn rhoi llwyfan o’r newydd i’r cysylltiadau rhwng Byd Iach a Byd Heddychlon.
Y prif siaradwr fydd Dr Rowan Williams, Cadeirydd Academi Heddwch Cymru.
Gwahoddir cynigion am bapurau 25 munud, yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ar agweddau amrywiol ac eang ar y thema. Croesewir papurau gan ysgolheigion profiadol, ymarferwyr yn y maes, a myfyrwyr ymchwil fel ei gilydd.
Bwriedir cynnal y digwyddiad yn rhithiol: 31 Mawrth 2022.
Cynhelir y gynhadledd hon ar y cyd gan Academi Heddwch Cymru a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, gyda nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.