Her Dysgu’r Cyfnod Clo – Manylion

Cystadleuaeth i ddysgwyr blwyddyn 11 ac 13 (gyda 2 gategori oed) i helpu i ysbrydoli ac ysgogi cam nesaf eich astudiaethau

Rydym ni’n eich herio chi i greu ‘esboniadur’ ar bwnc y byddwch chi’n ei astudio yn y chweched dosbarth, coleg neu brifysgol yn ddiweddarach eleni

Mae esboniaduron yn gallu cwmpasu pob math o bethau, ond dyma rai enghreifftiau:

  • chwilio am ddatrysiadau i argyfwng newid yn yr hinsawdd
  • datgelu mwy am ddiwylliannau, crefyddau, hanes ac etifeddiaeth Cymru
  • ymchwilio theori cwantwm neu agwedd arall ar ffiseg
  • dysgu am brofiadau gwahanol gymunedau drwy lenyddiaeth, celfyddydau gweledol a cherddoriaeth
  • archwilio’r byd drwy ddaearyddiaeth
  • dadansoddi dibynadwyedd a thuedd mewn newyddiaduraeth ar faterion pwysig
  • deall mwy am ein byd heddiw drwy hanes

Rydym ni am weld syniadau a dehongliadau creadigol o’ch pwnc, a brwdfrydedd ar gyfer datblygu eich gwybodaeth am eich dewis bwnc. Yn ogystal â dysgu mwy, rydym ni am eich helpu chi i ddatblygu eich cywreinrwydd, eich creadigrwydd a meddwl beirniadol.

Gallwn dderbyn cyflwyniadau PowerPoint, posteri, ffeiliau sain, gwaith ysgrifenedig neu fideos – edrychwch ar y rheolau am ragor o wybodaeth.

Dylech anelu eich gwaith at gynulleidfa gyffredinol – eich ffrindiau, cymheiriaid, rhieni, neiniau a theidiau a chymdogion. Awgrym: dylech osgoi defnyddio jargon diangen neu acronymau a gwnewch yn siŵr fod unrhyw dermau technegol yn glir i’r gynulleidfa.

Ein Cymrodyr, sy’n arbenigwyr blaenllaw, fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth.

Mae nifer o wobrwyon ar gael yn y ddau gategori oed; bydd pob ymgeisydd hefyd yn derbyn tystysgrif.

Caiff y ceisiadau eu beirniadu ar sail:

  • Eglurder y neges a’r cynllun – pa mor llwyddiannus ydych chi wedi cyfleu’r pwnc i gynulleidfa gyffredinol?
  • Gwreiddioldeb a chreadigrwydd – beth sy’n gwneud eich esboniadur yn wahanol i’r gweddill?

Dyddiad Cau: 30 Mehefin 2020