Rheolau

Darllenwch y rheolau i gyd yn ofalus

Rheolau: Cyffredinol

  • I gystadlu, rhaid i chi fod yn fyfyriwr blwyddyn 11 neu flwyddyn 13 oedd i fod i sefyll TGAU, Safon Uwch neu gymwysterau eraill mewn ysgol neu goleg yng Nghymru yr haf hwn
  • Nid oes ffi cystadlu
  • Gallwch gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu’n Saesneg
  • Gallwch gyflwyno uchafswm o ddau ddarn i’w hystyried; dylai’r ffocws fod ar ansawdd yn hytrach na maint.
  • Rhaid i’r cyflwyniad fod yn waith gwreiddiol gennych chi, a rhaid iddo beidio â bod wedi ennill unrhyw gystadleuaeth arall
  • Gallwn dderbyn y fformatau canlynol:
    • Cyflwyniad PowerPoint (dim mwy na 10 sleid)
    • Pdf o boster (maint A2)
    • Ffeil sain (hyd at 7 munud o hyd)
    • Gwaith ysgrifenedig, hyd at 2,000 o eiriau, gyda delweddau os ydych chi’n dymuno (pdf neu ddogfen Word – ni chaiff mathau eraill o ffeiliau eu hagor)
    • Fideo (dim mwy na 7 munud) Dylid gosod y fideos ar YouTube / Adobe Spark / Vimeo neu safle fideo arall, gan gyflwyno’r ddolen i’r gystadleuaeth.
  • Byddwn yn derbyn eich gwaith dim ond os yw’n waith gwreiddiol. Efallai eich bod wedi’i greu’n flaenorol, ond rhaid iddo beidio â bod:
    • wedi’i ddefnyddio fel rhan o’ch gwaith cwrs yn yr ysgol neu’r coleg
    • wedi’i gyhoeddi mewn antholegau, cyhoeddiadau cylchgrawn ysgol, blogiau neu unrhyw lwyfannau ar-lein eraill
    • wedi’i ddarlledu ar unrhyw orsaf deledu ranbarthol, genedlaethol neu ar-lein neu ar unrhyw lwyfan radio
  • –          Ni chewch gyflwyno gwaith sydd wedi’i greu gan fwy nag un person.
  • Oherwydd y nifer fawr fydd yn cystadlu, ni fyddwn yn gallu ymateb yn unigol i gyflwyniadau.
  • Y wobr gyntaf ym mhob categori fydd £300; bydd yr ail yn derbyn £150.
  • Rhaid i’r holl gyflwyniadau ddod i law erbyn 7pm ddydd Mawrth 30 Mehefin 2020.
  • Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol, ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn dilyn am y penderfyniad hwn.

Rheolau: enillwyr

  • Hysbysir yr holl enillwyr ym mis Gorffennaf 2020, cyn y cyhoeddiad ym mis Awst 2020. Bydd gofyn i’r holl enillwyr ddarparu bywgraffiad, ffotograff, ffurflen ganiatâd (os ydych dan 18) a phrawf o oedran.
  • Oherwydd y nifer o gystadleuwyr, dim ond y buddugwyr fydd yn cael eu hysbysu. Bydd manylion y rhestr lawn o enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Awst.
  • Bydd hawlfraint pob darn yn aros gyda’r creawdwr. Fodd bynnag, drwy gystadlu, bydd creawdwyr y darnau buddugol yn caniatáu’r hawl i Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi a/neu ddarlledu eu gwaith, a gwneud hyn cyn unrhyw un arall.
  • Os ydych chi’n caniatáu cyhoeddi eich gwaith buddugol ar ôl cyhoeddi’r enillwyr ym mis Awst 2020, rydych chi’n cytuno i gydnabod Cymdeithas Ddysgedig Cymru drwy ddefnyddio’r geiriau “Cyhoeddwyd am y tro cyntaf gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Her Dysgu’r Cyfnod Clo 2020” a chynnwys uwchddolen i www.learnedsociety.wales
  • Mae creawdwyr y gweithiau buddugol yn caniatáu trwydded ddiwrthdro anghyfyngedig i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ailgyhoeddi’r gwaith dros byth, yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
    • cyhoeddi’r gwaith ar-lein, yn cynnwys ar wefan y Gymdeithas. Bydd y Gymdeithas yn hysbysu’r awdur os yw trydydd parti’n gofyn am ganiatâd i ddefnyddio eu gwaith mewn unrhyw ffordd;
    • cynhyrchu adargraffiadau;
    • cyhoeddi’r gwaith (mewn print neu ar-lein) fel rhan o antholeg neu adnodd addysgol.