Anita Thapar -2018

Mae medal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad ymchwilwyr benywaidd rhagorol mewn STEMM sydd â chysylltiad â Chymru.

Yn 2017 dyfarnwyd i fedal i’r Athro Anita Thapar CBE, o Brifysgol Caerdydd am ei hymchwil mewn seiciatreg plant a glasoed.

“Mae derbyn y dyfarniad hwn yn anrhydedd enfawr” dywedodd yr Athro Thapar.

“Mae fy ngwaith gwyddonol wedi elwa’n fawr iawn dros y blynyddoedd o gydweithio gyda chydweithwyr rhagorol. Mae llawer o’r rhain wedi bod yn wyddonwyr benywaidd ifanc – felly gobeithio y bydd y wobr hon yn ysbrydoliaeth iddyn nhw.”