Lansiad Astudiaethau Cymreig: 29.01.20
Bydd lansio’r Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Mercher yn dangos bod modd seilio dyfodol Cymru fel cenedl sy’n edrych allan i’r byd ar gryfder yr ymchwil ym maes Astudiaethau Cymreig, sydd ar gynnydd.
Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn annerch achlysur lansio Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig a chiplun ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd am hanner dydd, ddydd Mercher 20 Ionawr.
“Rydym ni’n credu bod modd cryfhau proffil rhyngwladol Cymru drwy ymchwil arloesol sy’n archwilio perthynas Cymru â’r byd,” dywedodd Dr. Sarah Morse, Uwch Swyddog Gweithredol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Mae ein ciplun ymchwil yn dangos ehangder yr ymchwil hwnnw.
“Mae’r gwaith hwn yn edrych tua’r dyfodol a thuag allan.
“Nod y Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig yw cryfhau dealltwriaeth o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n nodedig. Bydd yr hunanymwybyddiaeth a’r hunanhyder a ddaw o hyn yn helpu Cymru i gynnal proffil rhyngwladol fel cenedl hunanymwybodol a hyderus.
“Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Ysbrydolwyd y ciplun gan ymagwedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan edrych ar y meysydd sydd eu hangen i ddatblygu Cymru’n genedl gynaliadwy a deinamig. Mae’n cynnwys proffiliau o ddeugain o feysydd ymchwil Astudiaethau Cymreig sy’n codi o sefydliadau, cyrff a phrifysgolion ar draws Cymru, yn cynnwys:
• rhaglen FLEXIS (Systemau Ynni Integredig Hyblyg) ar draws prifysgolion
• prosiect CHERISH sy’n edrych ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth ddiwylliannol basn Môr Iwerddon;
• gwaith ar ‘Welsh Plains’, brethyn garw a gynhyrchid i ddilladu caethweision y planhigfeydd yn y Caribî;
• ymchwil i’r modd y gellir hyfforddi artistiaid i weithio mewn lleoliadau gofal iechyd;
• effaith Model Caerdydd ar gyfer Lleihau Trais;
• ymdrechion i adfywio ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol.