Lansio Ymgynghoriad ar Benderfyniadau Cychwynnol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2028

Mae cyrff cyllido addysg uwch y DU (CCAUC, Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon) wedi gwneud penderfyniadau cychwynnol ynghylch cynllun lefel uchel y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf

Bydd yr REF nesaf yn dod i ben yn 2028 ac yn asesu ymchwil ac effaith rhwng 2021 a 2027. 

Mae’r penderfyniadau cynnar wedi’u cyhoeddi yn yr adroddiad ar Benderfyniadau Cychwynnol ac yn ymateb i ffactorau sy’n sbarduno newid, yn deillio o’r gweithgareddau gwerthuso ac ymgynghori. Maent hefyd yn ystyried polisïau a datblygiadau ymchwil ehangach o fewn y DU a mentrau rhyngwladol i wella asesiadau ymchwil. 

Mae’r adroddiad ar Benderfyniadau Cychwynnol yn amlinellu materion i ymgynghori ymhellach arnynt er mwyn cefnogi gwaith pellach i ddatblygu canllawiau a meini prawf manylach ar gyfer REF 2028. Ceir hyd i’r arolwg ymgynghori ar wefan Citizen Space yr UKRI. Mae croeso ichi ymateb i’r arolwg yn Gymraeg neu yn Saesneg. 

Fel corff enwebu, byddwn yn gweithio gyda’n Cymrodyr i ddatblygu ein hymateb i’r cynigion a byddwn yn cynnal trafodaeth ar-lein ym mis Medi.