Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Lansio Strategaeth Pum Mlynedd Uchelgeisiol

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW] wedi lansio ei strategaeth pum mlynedd newydd yn ffurfiol, i gyd-fynd â chyhoeddi cytundeb cyllido newydd gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru [CCAUC].

Mae Academi Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn cynnwys dros 650 o Gymrodyr, sy’n arweinwyr ac yn arbenigwyr mewn meysydd addysg uwch a bywyd dinesig, ac mae pob un â chysylltiad â Chymru. Mae eu cysylltiadau, eu harbenigedd a’u profiad yn ganolog i’r strategaeth newydd ac at nod Cymdeithas Ddysgedig Cymru o sicrhau bod ymchwil yng Nghymru yn cyfrannu at genedl ffyniannus, sy’n gallu cwrdd â heriau lleol a byd-eang.

Mae’r strategaeth newydd yn gosod pedair prif elfen wrth wraidd cenhadaeth y Gymdeithas:

  1. Cael effaith, drwy fod yn llais annibynnol dibynadwy mewn dadleuon polisi;
  2. Meithrin cydweithredu, drwy greu cysylltiadau amlddisgyblaethol a chysylltiadau â sefydliadau yng Nghymru a’r tu allan iddi;
  3. Tyfu talent, drwy helpu i wneud Cymru’n lle gwych i gynnal ymchwil;
  4. Hyrwyddo cynwysoldeb, drwy sicrhau bod y Gymdeithas yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

“Mae’r strategaeth newydd hon yn adlewyrchu sefydliad sy’n hyderus, yn edrych tuag allan, ac sy’n chwarae rhan gynyddol ym mywyd academaidd a dinesig Cymru,” meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae lansio’r strategaeth ar yr un pryd ag yr ydym yn cyhoeddi cytundeb cyllido mawr gyda CCAUC yn golygu y gallwn wneud cynnydd sylweddol tuag at ein targedau uchelgeisiol.

“Mae effaith wrth wraidd y strategaeth: yr effaith y gallwn ni ei chael fel sefydliad, a’r effaith y gall ymchwil ei chael ar flaenoriaethau polisi Cymru.”

Mae’r canlynol ymhlith y gweithgareddau sydd yn cael eu hamlinellu yn y strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf:

  • gweithio gyda’r llywodraeth, diwydiant, sefydliadau’r sector cyhoeddus ac eraill, i gynyddu dealltwriaeth llunwyr polisi o bwysigrwydd ymchwil rhagorol;
  • defnyddio Cymrodyr y Gymdeithas i gefnogi’r cenedlaethau nesaf o ymchwilwyr, drwy hyrwyddo cydweithio ym mhob cam gyrfa ac ym mhob sector
  • gwella record y Gymdeithas ar amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant, i greu sefydliad croesawgar a chynhwysol, lle mae gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol lais.

“Mae’r strategaeth yn nodi tua deg ar hugain o feysydd gweithgarwch, o fewn ein pedair thema eang, y byddwn yn canolbwyntio arnynt i gyflawni ein nodau strategol,” meddai Oliva Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Ni all unrhyw beth ddigwydd ar ei ben ei hun. Elfen bwysig o’r strategaeth yw cryfhau ein perthynas â CCAUC, Llywodraeth Cymru, prifysgolion Cymru a’r Gynghrair Academïau Celtaidd sy’n ffynnu.

“Rydym yn edrych ymlaen at feithrin perthynas newydd fel ein bod, erbyn diwedd cylch y strategaeth, nid yn unig wedi datblygu ein sefydliad mewnol, ond wedi cadarnhau ein henw da allanol fel llais annibynnol, awdurdodol hefyd, y mae ein partneriaid yn ymddiried ynddo i gael effaith ar gymdeithas Cymru.”