Llongyfarchiadau i Brif Weinidog newydd Cymru

Rydym yn llongyfarch Vaughan Gething ar ddod yn Brif Weinidog Cymru. Mae ei gyflawniad o ddod yn arweinydd du cyntaf unrhyw genedl Ewropeaidd yn gyflawniad sylweddol.

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef yn ystod y blynyddoedd nesaf, fel yr ydym wedi gwneud yn y gorffennol. Yn 2022, pan oedd yn Weinidog yr Economi, cawsom wahoddiad ganddo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyd-gynnal a chyd-gynnull trafodaeth ford gron ynglŷn â’r Drafft Strategaeth Arloesi i Gymru. Felly, mae gennym ddiddordeb cyffredin yn y math o bartneriaeth sydd ei hangen ar Gymru er mwyn cyflawni ei photensial enfawr. Bydd gan Brifysgolion Cymru, ac ymchwil o’r radd flaenaf, ran sylweddol i’w chwarae yn y broses o gyflawni’r potensial hwnnw.

Ar yr un pryd, rydym yn nodi ein diolch i Mark Drakeford am ei flynyddoedd o wasanaeth. Mae’r Gymdeithas yn gwerthfawrogi’r diddordeb personol a gymerodd yn ein gwaith a gwaith Cynghrair yr Academïau Celtaidd, sy’n ffurfio cysylltiadau ag academïau partneriaethol yn yr Alban ac Iwerddon.