‘Llwybrau at Heddwch’

Mae ‘Llwybrau at Heddwch’ yn rhaglen ymchwil a drefnir gan Academi Heddwch sy’n archwilio ffynonellau cyfoes o wrthdaro yng Nghymru a thu hwnt ac yn archwilio ffyrdd newydd o’i liniaru neu ei ddatrys.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi ffurfio partneriaeth ag Academi Heddwch i gynnal digwyddiad pwll tywod heddiw (7 Chwefror 2024) i roi cychwyn i’r rhaglen.

Mae naw aelod o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa  Gynnar wedi cael eu dewis i gymryd rhan.

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr yn LSW.

“Dyma dystiolaeth bellach o’r rôl rydym yn ei chwarae wrth weithio gydag eraill, rhan o’n nod strategol i ddod yn rhan annatod o’r sector addysg uwch sy’n cefnogi datblygiad ymchwilwyr.”

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen Llwybrau at Heddwch ar gael yma.